Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ann Griffiths/Llythyr 5

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 4 Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Llythyr 6

GAREDIG FRAWD YN YR ARGLWYDD,

Yr wyf yn ysgrifenu attoch yn bresenol am fod rhediad fy meddwl, yngwyneb tywydd o bob nattur, am ddweud fy hanes i chwi, anwyl frawd.

Anwyl frawd, y peth mwyiaf neillduol sydd ar fy meddwl yw y mawr rwymau sydd arnaf i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd am fy nal yngwyneb y gwyntoedd a'r llif-ddyfroedd. Gallaf ddweud na chadd fy meddyliau i erioed ei dal a'r un graddau o ofnau a'r dyddiau hyn; ond yngwyneb y cwbl 'rwyf yn meddwl hongian yn dawel wrth yr addewid werthfawr hono,—"Pan elych trwy'r dyfroedd mi a fyddaf gyda thi." Yr wyf yn meddwl ei bod yn ddigon i'm cynal rhwng dau for gyfarfod. Diolch byth am Dduw yn llond ei addewidion.

Anwyl frawd, y peth mwyiaf gwasgedig sydd ar fy meddwl,—y pechadurusrwydd o fod dim a welir yn mynd â blaenoriaeth fy meddwl. Yr wyf yn cywilyddio'n barchus, ac yn llawenhau mewn syndod, wrth feddwl fod yr Hwn y mae'n ddarostyngiad iddo edrych ar y pethau yn y nefoedd, etto wedi roi ei hun yn wrthddrych serch i greadur mor wael a myfi.

Yn yr olwg o'r dianrhydedd ar Dduw o roi'r lle blaenaf i ail bethau, dyma fy meddwl yn symyl. Os rhaid i natur gael ei gwasgu i afael marwolaeth oherwydd ei gwendid i ddal twniadau tanbaid haul profedigaethau, byddaf yn meddwl weithiau y caf edrych ar fy yspeilio yn llawen o'mywyd naturiol yn hytrach (os rhaid) nag i ogoniant fynd tan gwmwl wrth i natur gael ei rhwysg a'i gwrthddrychau.

Gair hwnw ar fy meddwl heno,—"Ewch allan, merched Sion, ac edrychwch ar y brenhin Solomon yn y goron a'r hon y coronodd ei fam ef ar ddydd ei ddyweddi, a dydd llawenydd ei galon ef." Yr wyf yn meddwl fod galwad uchel a neillduol ar holl ddeiliaid y cyfammod o'u tai bwrddedig ei hunain i weled ei brenhin yn arwain y goron ddrain a'r wisg borphor. Nid nid rhyfedd fod yr haul yn cuddio ei belederau pan oedd ei Greawdwr dan hoelion. Mae'n syndod i'm feddwl pwy oedd ar y groes—yr Hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân yn treiddio trwy'r nefoedd a daear ar yr un moment yn methu canfod ei greaduriaid, gwaith ei ddwylaw. Y mae fy meddwl yn boddi gormod i ddweud dim yn chwaneg ar y matter. Ond wrth edrych ar fawredd y Person, nid rhyfedd fod y gair hwnnw ar lawr,—"Yr Arglwydd a fydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder ef, efe a fawrha yr gyfraith ac a'i gwna yn anrhydeddus."

———————————

J. Thomas]

RHAIADR DOLANOG.
Yng ngwlad Ann Griffiths.

———————————

Anwyl frawd, nid rhyfedd fod y gair hwnw ar

lawr,—"Cusenwch y Mab rhag iddo ddigio."

Anwyl frawd, nid dim neillduol ar fy meddwl i helaethu yn bresenol. Ond hyn a ddywedaf wrth ddibenu,—Mi a ddymunwn fod yr rhan sy'n ol o'm bywyd yn gymundeb mor agos na pherthynai imi byth mwy ddywedyd,—"Af a dychwelaf." Myfi a feddyliwn, ond cael hyn, fy mod yn dawel i gyfarfod â rhagluniaeth yn ei gwg a'i chroesau.

Dymunaf neillduol ran yn eich gweddiau. Cofiwch anfon gyda brys. Mae arnaf hiraeth am lythyr.

Wyf, eich caredig chwaer,

ANN THOMAS, Dolwar.