Gwaith Ann Griffiths/Llythyrau-Llythyr 1
← Mynegai i'r Emynnau | Gwaith Ann Griffiths gan Ann Griffiths |
Llythyr 2 → |
ANN GRIFFITHS.
"Ioan ap Huw, athraw ysgol Gymraeg, a bia', llyfr hwn, 1800," sydd ar ddechreu'r ysgriflyfr. Ar ol hymnau a chofnodion seiadau hyd at Ion. 20, 1801, daw'r ddau lythyr hyn.
[Copi o lythyr gefais oddiwrth un o bererinion Seion, mewn ffordd o atebiad i lythyr a ddanfonais.]
GAREDIG FRAWD,— Cefais hyn o gyfleusdra i anfon attoch yr ychydig leiniau hyn, er mwyn dangos fy mharodrwydd i dderbyn ac atteb eich llythyr sylweddol, fel ac yr wyf fi yn cwbl gredu mae yn Maes Boaz y bu i chwi loffa'r tywysenau llawn a bendithiol a ddanfonasoch imi, gan fy ngorchymyn i'w rhwbio ac ymborthi arnynt, ac wyf fi yn meddwl iddynt gael cimaint o effaith ar fy meddwl a gwneuthur imi ocheneidio am y Graig. Oblegid nid allasech anfon dim mwy perthynasol i fy nghyflwr i, yr hyn oedd eich amcan, am y gwyddech fwy o'm hanes yn mhob trieni na neb arall. Mae'n dda dda genif glywed am eich parhad mewn myfyrdod ar eich cyflwr ac yn y Gair, ac mi a ddymunwn eich llwyddiant yn y cwbl.
Am danom ni yn y Bont, o ran iechyd corphorol fel arferol, ac o ran ysbrydoedd y mae'r asossiat fel corph llawn mwy deffrous, a'r weinidogaeth tan arddeliad yn gyffredinol.
Nid oes genif fi yn bresenol nemawr i'w ddweud am neb personau yn neillduol, ond byddai dda genif adrodd fy helynt fy hun. Cefais rai treialon go smart, a gwyntoedd cryfion, nes imi bron golli fy anadl ar yr rhywiau, ond tybiais fy nwyn i fynu i'r bryn wrth y ddwy gadwyn ganlynol,— "A Gwr a fydd yn ymguddfa," &c., a "Tyred, fy mhobl, llecha," &c. Bu yn dawel a gwresog dros dro.
Cefais dreial arall mewn perthynas i ddwyn amser yn eglwys Dduw, gan benderfynu fy nghrefydd o'r dechreu ar gam ddibenion, a meddwl rhoi i fyny. Fe a'm codwyd fel hyn— "Am fod ini Archoffeiriad mawr," &c. Ond yn bresenol pur gymylog ac amheuus am fy mater, a churo ar fy meddwl pa un a ddechreuwyd gwir waith arnaf ai na ddo. Ond yn wyneb pob peth, hyn a ddywedaf—"Pe lladdai efe fi," &c. Cawsom freintiau gwerthfawr iawn y dyddiau a basiodd, yr ordeinhad ddwy waith, ag arogl esmwyth ar doriad y bara.
Garedig frawd, bu dda genif glywed y pwynt ynghylch fod amgylchiadau eglwys Dduw yn cael eu hamlygu i broffeswyr, am fy mod yn meddwl nad yw hynny ddim yn beth hollol ddieithr i minau yn y dyddiau terfysglyd hyn nithio ar Seion. Mae rhwymau neillduol ar bob Cristion deffrous yn y matter i alaru wrth weled cerig y cysegr yn mhen pob heol—megis puteinio, lladradta, a'r cyfryw. Dymunaf arnoch chwithau gymeryd priodasferch yr Oen at Orsedd gras. Ocheneidiwch lawer am ei hadferiad hi. Cymhellwch hi ar ei Phriod, oblegid ni wrthud Duw eu bobl, yr rhai a adnabu efe o'r blaen, am fod y Cyfamod yn gyfamod trwy lw, er mai puttain yw hi. Dwy ysgrythyr a fu ar fy meddwl yn neillduol, un a grybwyllwyd uchod, a'r llall fel hyn,—"Y mae'r phiol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwin sydd goch, ac yn llawn gymysg, ac fe dywelltir ohono; a holl annuwiolion y tir a yfant o'i gwaddod hi." Mi a wawriodd ar fy meddwl. Oblegid o bydd i un o'r phiolau a sonir am danynt gael ei tywallt, ni chaiff y plant ond eu purgio am ei bod yn llaw Tad. Ond gweddiwn lawer am help i ddyoddef y driniaeth, bydded mor chwerw ag y bo, i'n cael i'n lle.
Bellach, mi a ddibenaf a hyn, oddiwrth eich cyd-bererin yn yr ymdaith tua thragwyddoldeb.