Gwaith Ann Griffiths/Rhagymadrodd
← Gwaith Ann Griffiths | Gwaith Ann Griffiths Rhagymadrodd gan Ann Griffiths Rhagymadrodd |
Mynegai i'r Emynnau → |
Rhagymadrodd.
AMAETHDY mewn ceunant tawel yn sir Drefaldwyn, rhyw wyth milltir i'r de orllewin o Lanfyllin, ym mhlwy Llanfihangel yng Ngwynfa, yw Dolwar Fach. Yno, yng ngwanwyn 1776, ganwyd i John a Jane Thomas eu pedwerydd plentyn Ann, a bedyddiwyd hi Ebrill 21. Tyfodd yn eneth "o gyfansoddiad tyner, o wynepryd gwyn a gwridog, talcen lled uchel, gwallt tywyll, yn dalach o gorffolaeth na'r cyffredin o ferched, llygaid siriol ar donn y croen, ac o olwg lled fawreddog, ac er hynny yn dra hawdd neshau ati mewn cyfeillach a hoffai." Hoffid darllen a chân yn ei chartref, a dysgodd ysgrifennu llaw gain yn rhywle. Daeth dwyster y Diwygiad i'w chartref hefyd. Aeth i Lanfyllin unwaith a'i bryd ar ddawnsio; gofynnodd hen forwyn i'r teulu a ddeuai i gapel Pendref i wrando Benjamin Jones, Pwllheli. O hynny allan bu myfyrdod yr eneth hoenus athrylithgar ar dragwyddoldeb.
Yn y seiat fechan ym Mhont Robert yr oedd dau wehydd ddaeth wedi hynny yn ysgolfeistriaid dan Charles o'r Bala. Un ohonynt oedd John Hughes, ac efe gadwodd lythyrau ac emynnau Dolwar Fach i ni. Bu'n lletya yn Nolwar; a daeth Ruth, y forwyn, yn wraig iddo wedi hynny. Yn 1800 aeth i gadw ysgol i Fathafarn, ac y mae wedi cadw rhai llythyrau, ac emynnau feallai, dderbyniodd oddiwrth Ann Thomas. Cofrestrwyd Dolwar Bach yn lle i addoli yn gyhoeddus, Mehefin 9, 1803. Yn Chwefror y flwyddyn wedyn bu John Thomas, y tad, farw. Yr oedd y fam wedi marw er Ionawr 1794: Hydref 10, 1804, priododd Ann Thomas a Thomas Griffiths o Feifod, a daeth y gwr ieuanc i Ddolwar i fyw. Yr oedd yn briodas hynod o hapus, ond berr iawn fu ei pharhad. Ganwyd merch fechan iddynt ymhen y deng mis, a bu'r fechan farw yn bythefnos oed; a bu'r fam ieuanc farw hefyd, yn union ar ei hol, yn naw ar hugain oed. Claddwyd hi ym mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, Awst 12, 1805.
Argraffwyd rhai o'i hemynnau gan Charles o'r Bala yn 1806; ac eraill, a'i llythyrau, o dro i dro gan y Parch. John Hughes, Pont Robert. Ond nid fel y cyfansoddodd hi yr hymnau, nac fel yr ysgrifennodd hi y llythyrau, yr argraffwyd hwy. Un llythyr yn llawysgrif Ann Griffiths sydd ar gael, rhoddwyd ef i Goleg Prifysgol Cymru gan y diweddar John Jones o Lanfyllin, wyr i chwaer hynaf Ann Griffiths. Ar ddiwedd hwnnw y mae un pennill wyth linell,—
"Er mai cwbl groes i natur."
Y mae John Hughes wedi gadael dau lyfr lawysgrif, yn awr ym meddiant y Parch. Edward Griffiths, Meifod. Ysgrifennwyd y rhan fwyaf ohonynt rhwng 1800 ac 1805. Cynhwysant emynnau, llythyrau, a chofnodion cyfarfodydd crefyddol. Y mae bron yr oll o emynnau Ann Griffiths yn y llyfrau hyn. Yn eu mysg y mae'r emyn "Er mai cwbl groes i natur", ac y mae yma, nid fel y ceir ef yn argraffiad Charles o'r Bala, ond fel y ceir ef yn llawysgrif Ann Griffiths. y peth tebycaf yw fod John Hughes wedi cael yr emynnau cyntaf yn llythyrau Ann Griffiths ato, a'r rhai diweddaf gan Ruth oddiar ei chof.
Ceir hanes Ann Griffiths yn erthygl John Hughes yn y Traethodydd, Hydref, 1846; ac yn y Cofiant ysgrifennodd Morris Davies cyn 1865. Yn Cymru 1906 bydd hynny o weddillion ellir loffa yn awr am dani hi a'i chyfoedion, oddiar ysgrifau a thraddodiad.
Yn y gyfrol hon wele emynnau a llythyrau Ann Griffiths, hyd y medrir eu rhoddi yn awr, fel yr ysgrifennodd hi ei hun hwy. Ar adeg ei chanmlwyddiant y mae'n llawenydd imi fedru cyflwyno'r emynnau byw cariadlawn, am y tro cyntaf erioed, fel y canodd Ann Griffiths hwy[1].
Haedda'r Parch. Edward Griffiths ddiolch Cymru am ei ofal am ysgriflyfrau bore oes John Hughes, a'm diolch innau am y fraint o'u darllen a'u cyhoeddi.
OWEN M. EDWARDS. Coleg Lincoln, Rhydychen,
Medi 29, 1905
- ↑ Y mae'r emynnau yn union fel y maent yn llyfr John Hughes, ond fod atalnodau a phrif lythrennau wedi eu rhoi o'r newydd. Y mae'r gwallau yma i gyd, ac y mae'r emynnau fel yr oeddynt cyn i neb feddwl am eu cywiro i'r cyhoedd a'r wasg. Wele fynegai i'r llinellau cyntaf fel y ceir hwy yn y llyfrau hymnau.