Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (21)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (20) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (22)

XXI

Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni'r gauaf
Ni theimlem wrês yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
Ni byddai'r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
'N gwneyd llawer iawn o les.