Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (26)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (25) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

XXVI

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa'r llygad dydd,
Ogylch traed y graig a'r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenedlaeth wedi mynd,
A chenedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae'r heniaith yn y tir,
A'r alawon hen yn fyw.