Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (4)
Gwedd
← Alun Mabon (3) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (5) → |
IV
Dowch i'r mynydd yn y bore,
Chwi gewch weld y wawr-ddydd deg
Yn ymwrido ar y bryniau,
Fel genethig dair-ar-ddeg.
Diffodd lampau'r nos,
Goleu'r ddaear dlos,
Rhodio tros y bryniau mawr,
Gosod cymyl claer
Mewn ymylon aur,
Dyna waith y wylaidd wawr.
Dowch i'r mynydd gyda'r hwyrddydd,
Pan aiff haul i'w fachlud awr;
Chwi gewch weled brenin Gwynddydd
Yn ei waed yn cwympo i lawr.
Duo'n ddyfnach bydd
Mynwent laith y dydd,
A daw nifwl ar y môr,
Lleuad gwyd ei phen,
Hwyrddydd rodia'r nen
I ail oleu lampau'r Iôr.