Gwaith Ceiriog/Ar hyd y Nos

Oddi ar Wicidestun
Codiad yr Hedydd Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Morfa Rhuddlan

AR HYD Y NOS

Alaw,—Ar hyd y Nos

Holl amrantau'r sêr ddywedant,
Ar hyd y nos,
Dyma'r ffordd i fro gogoniant,
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.

O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos;
I oleuo 'i chwaer-ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos.