Gwaith Ceiriog/Ceisiais drysor

Oddi ar Wicidestun
Y fam ieuanc Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Y fynwent yn y coed

CEISIAIS DRYSOR

Ceisiais drysor yn y byd
Mi geisiais ac mi gefais un,
Oedd fwy o werth na'r byd ei hun,
Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud

Yn yr arch mae'r oll yn awr,
Oddigerth y blodeuyn llon
Adawodd angau ar ei bron
I wenu ar y storom fawr.

Pan suddai'm llong, tan rym y lli,
O'i hystlys daeth rhyw nerth i'm dwyn
Yn ol i'r lan. Fy mhlentyn mwyn
Bywydfâd bychan oeddyt ti.

Mi hoffwn innau fynd i lawr.
Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon,
Mi geisiaf fyw o don i don
Ar wyneb môr fy ngofid mawr