Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ceiriog/Corn y Gad

Oddi ar Wicidestun
Breuddwyd y Bardd Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Dafydd y Garreg Wen

CORN Y GAD

Alaw,—Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth



Ar y mynydd rhodiai bugail,
Gwelai 'r gelyn ac yn uchel,
Bloeddiodd allan—"Llongau Rhyfel!"
Yna clywai gorn y gâd.
Corn y gâd!
Dyna ganiad corn arswydion,
Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw 'i ddynion.


Corn y rhyfel hollta 'r nefoedd,
Tery arswyd trwy 'r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y cymoedd
Gorn y gâd.

Fel mae Draig hen Gymru 'n deffro
Tan y amynydd yn ei hogo',
Cerrig ateb sydd yn bloeddio,
Chwythu 'n uwch wna corn y gâd;
Corn y gâd!
Meibion Berwyn ydynt barod,
Llifant o'r mynyddoedd uchod,
Duant y gwastadedd isod;
Meirch i'r frwydyr gydgarlamant,
Holl gleddyfau Cymru fflamiant,
Mewn urdduniant, cydatebant
Gorn y gâd!

CORN Y GAD

Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o'm blaen wedi cyfansoddi cân ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig. Fe ddichon fod y dôn wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o'm cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na'm heiddo i. Fe ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daethum ar ei thraws. Fel yr oedd Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i'n gilydd, fe ofynnodd ef braidd yn sydyn, "A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennaeth erioed?" Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. "O," ebai yntau, "hen dôn anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i 'Difyrrwch Gwŷr Harlech,' ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi." Digwyddodd fod ei lais yn well nag arferol, a'm ystafell innau yn fechan, ac allan â hi nes oedd y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y tŷ. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan seindorf Dolgellau.