Gwaith Ceiriog/Llwybr y Pererin

Oddi ar Wicidestun
A laeswn ni ddwylaw Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Bedd Llywelyn

LLWYBR Y PERERIN

Mi dybiais fod ffordd y pererin i'r nef
Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain;
Dangosaist Di'r ffordd—ac un gul dywell oedd,
Garegog a blin trwy fieri a drain.
Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen,
Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw;
Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i'w cael,—
Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.