Gwaith Ceiriog/Meddyliau am y Nefoedd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Ceiriog/Nant y Mynydd Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Mae John yn mynd i Loegr

MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD

Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn gyfieithiedig.

Daw meddyliau am y nefoedd
Gydag awel wan y nawn,
Gyda llanw'r môr fe ddeuant,
Gan lefaru 'n felus iawn;
Pan fo 'r mellt fel sêr yn syrthio,
Yn y storm gynhyrfus, gref—
Pan fo 'r llong yn teimlo 'r creigiau,
Daw meddyliau am y nef.

Daw meddyliau am y nefoedd,
I unigedd fforest goed,
Ac i'r anial, lle nas tyfodd
Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau 'r ia tragwyddol,
Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
Daw meddyliau am y ne.

Daw meddyliau am y nefoedd
I ynysig leia 'r aig,
Lle mae 'r don yn gosod coron
Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd
Ddont eu hunain i bob man.