Gwaith Ceiriog/O weddi daer

Oddi ar Wicidestun
Y fodrwy briodasol Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Darlun-Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi

O WEDDI DAER

(O "Jona.")

O weddi daer! gwyn fyd y fron
A fedro dy anadlu,
Yng nghalon edifeirwch gwir
Y cuddiodd Duw dy allu;
Yr isel lwch yw'th gartref di,
Ac mewn sachlian gwisgi,
Gwyn fyd y llais crynedig gwan
Dywallto'i hun i weddi.

O weddi daer! tramwyfa wyt
I lu o engyl deithio
I lawr i'r dyfnder at y gwan,
I roi eu hedyn trosto,—
I wlychu gwefus oer y llesg,
A gwin a'i calonoga;
O ddyn! os tynni ŵg y nef,
Dos ar dy lin—gweddia.