Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ceiriog/Pob rhyw seren fechan wenai

Oddi ar Wicidestun
Hen gwrwg fy ngwlad Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Claddedigaeth Morgan Hen

POB RHYW SEREN

(Suo-gân y Monwyson o "Cantata Tywysog Cymru.")

Pob rhyw seren fechan wenai,
Yn y nefoedd glir uwch ben;
Rhwyfai cwch i fyny'r Fenai,
Yng ngoleuni'r lleuad wen.
Clywid canu—sucganu,
Yn neshau o Ynys Môn,—
Canu, canu, suoganu,
Melus orfoleddus dôn.

Mewn awelon ac alawon,
At y Castell rhwyfai'r côr;
Ar y tyrau suai'r chwaon,
Wrth eu godrau suai'r môr.
Canent, canent, suoganent,
Ar y Fenai loew, dlos;
Dan ystafell y Frenhines,
Suoganent yn y nos.

"Fel mae'r lloer yn hoffi sylwi
Ar ei delw yn y lli;
Drych i Rinwedd weld ei glendid
Fyddo oes dy faban di."
Suoganu i'r Frenines,
Dan y ganlloer loew, dlos,
Felly canodd y Monwyson,
Ar yr afon yn y nos.