Gwaith Ceiriog/Trot y Gaseg

Oddi ar Wicidestun
Darlun-Castell Dinas Bran Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Llances y Dyffryn

TROT Y GASEG

Alaw—Trot y Gaseg

Rhaid imi basio heno
Tŷ geneth lana'r fro,
Dymunwn alw yno,
Ond ni wnaiff hynny'r tro.
Tyrd ti fy merlen hoew,
I fyny'r dyffryn acw;
Da gwyddost am y tŷ
Y trig fy ngeneth gu—
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio'r Dolydd Gleision,
Ar gefn fy merlen ddu.

Mae miwsig hen alawon,
Yn swn dy bedwar troed:
Rwy 'n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed.
Tra'r afon ar y graian,
Yn hwian iddi' hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynnu uwch y tŷ,
A'm calon wirion innau
Yn crynnu am y goreu.
Wrth fynd ar loergan oleu
Ar gefn fy merlen ddu.

Yn y coedwigoedd agos,
Fy merlen lo'wddu lefn,
Y clywais lais yr eos
Wrth deithio ar dy gefn.
Pan oeddit ti yn trotian,
Yr oeddwn innau 'n dotian,

Wrth wrando'r eos gu
Ac edrych ar y tŷ.
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Gleision,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
Ar gefn fy merlen ddu.