Gwaith Ceiriog/Y Ferch o'r Scer

Oddi ar Wicidestun
Y march ar gwddw brith Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Pa le mae'r hen Gymry

Y FERCH O'R SCER

Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i'r telynor am rai blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y garwriaeth. Gwnaed y dôn gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a'i ofid.

Alaw,—Y Ferch o'r Scer

'R wyf yn cysgu mewn dallineb
Ganol dydd a chanol nos;
Gan freuddwydio gweled gwyneb
Lleuad wen a seren dlos.
Tybio gweld fy mam fy hunan—
Gweld yr haul yn danbaid dêr;
Gweld fy hun yn rhoddi cusan
I fy chwaer a Merch y Scer.

Gwresog ydyw'r haul gwyneblon,
Oer, ond anwyl, ydyw 'r sêr;
Gwres oer felly yn fy nghalon
Bâr adgofion Merch y Scer.
Mae fy mam a'm chwaer yn dirion,
Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch y Scer sy 'n torri 'm calon,
Merch y Scer sy 'n cadw draw.

Cariad sydd fel pren canghennog,
Pwy na chara Dduw a dyn?
Cangen fechan orflodeuog
Ydyw cariad mab a mun.
O! 'r wy'n diolch ar fy ngliniau,
Am y cariad pur di-ball;
Cariad chwaer sy 'n cuddio beiau—
Cariad mam sy'n caru 'r dall.