Gwaith Dafydd ap Gwilym/Gyrru'r Haf i Forgannwg

Oddi ar Wicidestun
Y Mabolaeth Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Marwysgafn y Bardd

GYRRU'R HAF I FORGANNWG[1]

TYDI yr Haf, tad y rhwys,
A'th goedfrig berth gauadfrwys;
Tywysog gleiniog y glyn,
Tesog draw'n deffraw dyffryn;
Praff yw dy frig i'n priffyrdd,
Proffwyd penial gwial gwyrdd;
Panelog, pwy un eiliw?
Pwyntiwr dedwydd y gwŷdd gwiw;
Peraist deganau purion,—
Percwe brwys mewn parc a bron,
Pawr ar lawr y glaslawr glwys,
Per ydyw, ail paradwys.
Rhoddaist flodau a rhyddail,
Rhesau gwych ar deiau dail.
Cawn nodau cywion adar,
Can wanwyn ar dwyn a dâr;
A gwrandaw'r gerdd fangaw falch,
Ym mywyll, lle cân mwyalch;
Cawn gennyd y byd o'i ben,
A lluoedd bawb yn llawen.

Clyw fi, Haf. O chaf i'm chwant
Yn gennad ti'n d' ogoniant,
Hed drosof i dir Esyllt,
Oberfedd gwlad Wynedd wyllt;
Gyr onis bo'ch i'm goror,
Anwyla man, yn ael y môr.

F' anerchion yn dirion dwg
Ugeinwaith, i Forgannwg;
Fy mendith, a llith y lles,
Dau-ganwaith i'r wlad gynnes;

Dymgais â'm gwlad o'i hamgylch,
Damred a cherdded ei chylch,—
Gwlad dan gauad yn gywair,
Lle nod gwych, llawn yd a gwair;
Llynnoedd pysg, gwinllannoedd per,
A maendai lle mae mwynder;
Arglwyddi yn rhoi gwleddoedd
Haelioni cun heilwin c'oedd.
Ei gwelir fyth, deg lawr fau,
Yn llwynaidd gan berllanau;
Llawn adar a gâr y gwydd,
A dail, a blodau dolydd;
Coed osglog, caeau disglaer,
Wyth ryw yd, a thri o wair;
Perlawr purlas, mewn glas glog,
Yn llannaidd, a meillionog.

Yno mae gwychion fonedd,
A dâl im aur, mai, a medd;
Ac aml gôr y cerddorion
A ganant a thant, a thôn;
Ymborth, amred i'r gwledydd
A dardd ohoni bob dydd;
A'i blith, a'i gwenith, ar goedd,
Yn doraeth i'r pell diroedd;
Morgannwg, ym mrig ynys,
A byrth bob man, llan a llys.

O'th gaf, yr Haf, i'th awr bardd
A'th geindwf, a'th egin-dardd,
Dy hinon yn dirion dwg,
Aur gennad, i Forgannwg;
Tesog fore, gwna'r lle'n llon,
Ag annerch y tai gwynion;

Rho dwf, rho gynhwf gwanwyn
A chynnull dy wull i dwyn;
Tywynna'n falch ar galch gaer,
Yo hylawn, yn oleuglaer;
Dod yno'n dy fro dy frisg,
Yn wyran bawr, yn irwisg;
Ysgwyd lwyth o ber ffrwythydd,
Yn rhad gwrs, ar hyd ei gwŷdd;
Rho'th gnwd, fel ffrwd, ar bob ffrith,
A'r gweunydd, a'r tir gwenith;
Gwisg berllan, gwinllan, a gardd,
A'th lawnder a'th ffrwythlondardd;
Gwasgar hyd ei daear deg
Gu nodau dy gain adeg.

Ac yng nghyfnod dy flodau,
A'r miwail frig tewddail tau,
Casglaf y rhos o'r closydd,
Gwull dolau, a gemau gwŷdd;
Hoew feillion, dillynion llawr,
A glwysbert fflur y glasbawr,—
I'w rhoi'n gof aur-enwog ior,
Ufudd wyf, ar fedd Ifor.


Nodiadau[golygu]

  1. Gwaith Iolo Morganwg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A140