Gwaith Dafydd ap Gwilym/Pererindod Morfudd

Oddi ar Wicidestun
Claddu y Bardd o Gariad Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Ymbil

PERERINDOD MORFUDD.

I FYNWY I GEISIO MADDEUANT AM LADD Y BARDD.

GREDDF ffoes gruddiau ffion,
Gadewis fy newis Fon.
Crist Arglwydd, bod rywydd bid trai
Cas, a chymwynas Menai
Y Traeth Mawr, golud-fawr glod,
Treia, gad fyned trwod;
Y Bychan Draeth, gaeth gerynt,
Gad i'm dyn gwyn hyn o hynt;
Darfu'r gweddiau dirfawr,
Digyffro fo Artro fawr;
Talwn fferm borth Abermaw,
Ar don drai, er ei dwyn draw;
Gydne gwin, gad naw gwaneg
Dysynni i dir Dewi deg:
Adwfn yw tonnau Dyfi,
Dwfr rhyn yn ei herbyn hi;
Rheidol, gad, er d'anrhydedd,
Heol i fun hael o fedd;
Ystwyth, ym mhwyth, gad im hon,
Drais, dew-ddyfr, dros dy ddwyfron;
Aeron ferw, hyson hoew-serch,
Gad trwod fyfyr-glod ferch;
Teifi, dwfr tyfiad eurwawn,
Gad i'r dyn gadeirio dawn;
Dirfing drwy'r afon derfyn
Yr el ac y dêl y dyn.

Mam hirffawd, mae ym mhorffor,
O byw, rhwng Mynyw a môr;
Maddeued Mair, neddair nawdd,
I'm lleddf wylan a'm lladdawdd.

Nodiadau[golygu]