Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Gwynt

Oddi ar Wicidestun
Morfudd a'r Delyn Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Taith y Bwa Bach

Y GWYNT

YR wybrwynt, helynt hylaw,
Agwrdd drwst, a gerdda draw;
Gŵr eres wyd, garw ei sain,
Drud byd, heb droed, heb adain;
Eithr a thrwst aruthr y'th rhoed,
O bantri wybr heb untroed ;
A buaned y rhedi
Yr awrhon dros y fron fry.

Dywed im, diwyd emyn,
Dy hynt di, ogledd-wynt glyn.
Rhad Duw wyd ar hyd daear,
Rhuad blin doriad blaen dâr.
Ar hyd y byd yr hedi,
Hin y fron, bydd heno fry.
Och wr, dos, odduch aeron
Yn glaiar, deg, eglur don.
Cyhyd gwyn wenwyn weini,
Coeth yw'r wlad a'i maeth i mi.
Ac erof fi nag eiriach,
Nag ofna er y Bwa Bach.
Nithid twyn cyd noethid dail,
Ni'th hitia neb, ni'th atail
Na llu rhygl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas, na llif, na gwlaw;
Ni boddi, ni rybuddiwyd,
Nid ei ynglŷn, diongl wyd ;
Ni'th wyl drem noethwal dramawr,
Ni'th glyw mil, nyth y gwlaw mawr;
Ni'th ladd mab mam o amhwyll,
Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll ;
Nid rhaid march buan tanad,
Neu bont ar aber, na bad.


Noter wybr, natur ebrwydd,
Neitiwr gwiw dros natur gwŷdd;
Hyrddiwr, chwarddwr, breinwr bryn,
Hwylbren-wynt heli bronwyn;
Dryc-hin ym myddin y môr,
Drythyllfab ar draethell-for;
Saethydd ar fron fynydd fry,
Seithug eisingrug songry;
Sych natur, creadur craff,
Seirniog wybr, siwrnai gobraff;
Gwae fi pan roddais fy serch
Gobrudd ar Forfudd, f'eurferch,
Rhian a'm gwnaeth yn gaethwlad
Rhed fry, rhed tua thy ei thad
Cur y ddor, par egori
Cyn y dydd i'm cennadi;
A chais ffordd ati, o chaid
Achwyna lais ochenaid;
Deui o'r sugwae diwael,
Dywed hyn i'm diwyd hael,—
Er hyd yn y byd y bwy,
Creded mai cywir ydwy:
Ys prudd yw f' wyneb hebddi,
Os gwir hyn nas cywir hi.

Dos obry, dewis wybren,
Dos fry tua gwely Gwen;
Dos at seren felenllwyd,
Debre'n iach, da wybren wyd.


Nodiadau[golygu]