Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Wylan

Oddi ar Wicidestun
Cystudd Serch Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Gwallt Morfudd (2)

YR WYLAN

YR wylan deg ar lanw di-oer,
Unlliw a'r araf wen-lloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fei haul, dyrnfol heli;
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgud-falch edn bysgod-fwyd.

A ddygi, yn ddiogan,
Llathr o glod, fy llythyr glân,
At ferch sy i serch yn saeth?
I'm dwyfron mae gleision glew-saeth.
Yngo'r aet, wrth yr angor,
Lawlaw â mi, lili'r môr.
Llithr unwaith, llathr ei hanwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.

Cyweir-glod bun caer glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell;
Edrych a welych, wylan,
Eigr o liw ar y gaer lân;
Dywed fy ngeiriau dyfun,—
Dewised fi,—dos at fun;
Boddia hon, baidd ei hannerch,
Bydd fedrus wrth foddus ferch;
A bydd, dywed, na byddaf,
Fwyn-was caeth, fyw, onis caf.
Ei charu'r wyf gwbl-nwyf nawdd
Och wŷr! Erioed ni charawdd
Na Myrddin wenieith-fin iach,
Na Thaliesin, ei thlysach.
Och, wylan, o chei weled
Grudd y ddyn lana o gred,
Oni chaf fwynaf annerch
Fy nihenydd fydd y ferch.


Nodiadau[golygu]