Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Eira
← Cynhwysiad | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Mis Mai → |
- GWAITH
- DAFYDD AB GWILYM.
- YR EIRA.
NI cherddaf, nid af o dy,
Ym mhoen ydd wyf am hynny;
Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw,
Na lle rhydd, na llawr, heddyw;
Ni'm twyllir o'm ty allan
Ar air merch i'r eira mân;
Pla ar y gwaith, plu ar y gŵn
A drig fal chwareu dragwn;
Fy esgus yw'r fau wisg fydd
Mal unwisg y melinydd.
Ai celwydd wedi'r calan
Wisgo o bawb wisg o bân;
Mis Ionawr, blaenawr y blaid,
Mae Duw'n gwneyd meudwyaid.
E ddarfu Dduw'r ddaear ddu,
O gylchedd, ei gwyngalchu;
Ni bu is coed heb wisg wen,
Ni bu lwyn heb liwionen;
Blawd mân yw'r pân ar bob pill,
Blawd wybr fal blodau Ebrill ;
Llen oer-gur uwch llwyn irgoed,
Llwyth o'r calch yn llethu'r coed;
Lledrith blawd gwenith a gad,
Llurig ystum llawr gwastad;
Grut oer yw gweryd tir âr,
Gweren dew ar groen daear;
Cawod rydew o ewyn,
Cnuau mwy na dyrnau dyn.
Trwy Wynedd y trywenynt,
Gwenyn o nef, gwynion ynt.
Ple cymail Duw plu cymaint,—
Ple gwledd sawl,—plu gwyddau saint?
Gwas ungroth ag eisingrug,
Garlwm grys, gwyr lamu grug.
Y llwch aeth yn lluwch weithian,
Lle bu'r Mai uwch llwybrau mân.
Oes un a wyr fis Ionawr
Pa ryw lu sy'n poeri i lawr?
Angylion gwynion, nid gwaeth,
Sy o'r ne yn saerniaeth.
Gwelwch dynnu o'r gwaelawd,
Lifft o blanc o lofft y blawd.
Arianwisg o'r ia ennyd,
Arian byw oera'n y byd;
Simwr oer, siom yw'r aros,
Siomiant bryn, a phant, a ffos;
Pais durdew, pwys daear-dor,
Palment mwy na mynwent môr.
Mawr syrth ar 'y mro y sydd,
Mur gwelw o'r môr i'w gilydd.
Ple taria'r pla torwyn?
Plastr o hyd, pwy lestair hyn?
Pwy faidd ei ddiwladeiddiaw,
Plwm oer ei glog, ple mae'r gwlaw?