Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Haf

Oddi ar Wicidestun
Y Ceiliog Du Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Colli'r Haf

YR HAF

GWAE ni, hil eiddil Addaf,
Fordwy rhad, fyrred yr haf.

Rho Duw! gwir mae dihiraf,
Rhag ei ddarfod, ddyfod haf;
A llednais wybr ehwybraf,
A llawen haul, a'i lliw'n haf;
Ac awyr erwyr araf,
A'r byd yn hyfryd yr haf;
Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
O'r ddaear hen, a ddaw'r haf;
I dyfu, glasu, glwysaf
Dail ar goed, y rhoed yr haf;
A gweled modd y chwardda
Gwallt ar ben hoew-fedwen ha;
Paradwys, iddo prydaf,
Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?
Glod anianol y molaf
Glwysfodd, wi! O'r rhodd yw'r haf!
Deune geirw dyn a garaf
Dan frigau rhyfig yr haf;
Côg yn serchog, os archaf,
A gân ddiwedd huan haf,
Glasgain edn glwys ganiadaf,
Cloch osber am hanner haf;
Bangaw lais eos dlosaf,
Bwyntus hy, dan bentus haf;
Ceiliog, o'r frwydr y ciliaf,
Y fronfraith, hoew-fabiaeth haf;
Dyn a fydd hirddydd harddaf
A draidd gair hyfaidd, yr haf;
Eiddig, cyswynfab Addaf,
Ni ddaw hwn oni ddaw haf;

Rhoed ei gyfoed o'r gauaf,
A rhan serchogion yw'r haf.

Minnau tan fedw nis mynnaf
Mewn tai llwyn ond mentyll haf;
Gwisgo gwe lan am danaf,
Pybyr gwnsallt harddwallt haf.
I dai dail y didolaf,
Anwyd ni bydd hirddydd haf;
Lledneis-ferch os anerchaf,
Llon yw hwyl hon ar ael haf.

Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf
Gwahardd ar hoew fardd yr haf;
Gwynt ni ad gwasgad gwisgaf,
Gwaeddem "Hwnt." Gwae ddoe am haf.
Hiraeth, nid ymddiheuraf,
Dan fy mron am hinon haf.

O daw hydref, haf auaf,
Eira a rhew i yrru'r haf;
Gwae finnau ddyn, gofynnaf,
Os gyr, mor rhyfyr mae'r haf.

Nodiadau[golygu]