Gwaith Dewi Wnion/Can ar Wyl Dewi

Oddi ar Wicidestun
Dyhuddiant i Mr. T. W. Hancock Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Pennillion i Mr. William Rees

CAN AR WYL DEWI.

Atolwg, hil Brython, os tirion ddystewch,
Byr orchwyl anerchiad ar ganiad a gewch;
Hyfrydol eich gweled gan lloned eich llun,
Mewn agwedd gysurus, yn barchus bob un;
Boed pob cymedroldeb a rhwydd-deb i’n rhan,
Heb neb yn gwallgofi, na meddwi ’n un man,
Na byddo i’n cynnulliad ogwyddiad gair gwan;
Y’mlaen â’n Cymdeithas mewn urddas a nerth,
Cadarnach bob diwrnod i’w ganfod bo’i gwerth,
Boed fyth fel di-fethiant lwys borthiant lâs berth.

Gwyl Dewi, pan gadwom, tra byddom, trwy bwyll,
Cawn gofio’r hen Gymry, dda deulu, ’n ddidwyll
A llawer hen Gymro, ond cofio’r gwyr call,
Anturiant am ryddid eu bywyd heb ball;
Yn wrawl, yn eirwir, i’w bro-dir rhag brad,
A malais gwyr milain, bu rhai’n mewn parhad;
Yn lawddoeth ymladdant am lwyddiant y wlad;
Os carwn ein ceraint, ein braint hyn o bryd
Yw cynnal ein cenin heb ronyn o wrid,
Er cofio’r hen Frython fu’n boethion eu byd.

Oes eirian gysurus i’n Hynys am hir,
A dyddiau dedwyddwch caed heddwch trwy’r tir,
Er brathiad i’r Brython trwy greulon frad groes,
Daeth odfa, daeth adfer o lawer trom loes;
Mwyn heddfawr mae’n hawddfyd a rhyddid i’n rhan
Dim eisieu gormesu na gwasgu mo’r gwan
Ond oesi dewisol dymunol pob man;
Er rhyw anfoddlonrwydd o’r herwydd ryw hyd,
Tawelwch ddaw eilwaith er bariaeth y byd,
A goror deg eirian fo Prydain mewn pryd.


Un golwg a’n gilydd b’om beunydd bawb oll,
Un meddwl, un moddion, bob galon ar goll,
Un lewgu olygiad, un tyniad cytun,
Un berwyl, un bwriad, un boddiad bob un,
Puredig, parodol, yn frawdol, un fryd,
Un onest, yn uniawn, yn gyfiawn i gyd,
Fel doethwych gymdeithion tra bo’m yn y byd
Er dewis peth diod rhag rhyndod i’n crwyn,
Na fyddwn yn feddw, rhag garw drwm gŵyn,
Peth anhawdd yw canfod mewn meddwdod ddyn mwyn!

Yr Eglwys a’r Brenin, dibrin fo da’u braint
Er nodded rhinweddol cysurol i’r saint;
A phurdeb Athrawiaeth, i’n helaeth fwynhau
Y Trindod mewn Undod, er hyglod barhau;
Meddyliwn bob adeg am deg ofni Duw;
I’r Brenin rho’wn fawredd, anrhydedd bob rhyw,
Trwy gariad i’r goron, tra byddom ni byw;
Diffodder Anffyddiaeth a’i heffaith cyn hir,
A bodder Pabyddiaeth a’i gweniaith trwy ’r gwir,
Efengyl fwyn effro fo’n tanio trwy’r tir.

Pob hawddfyd, a llawnfyd, dedwyddyd doed oll,
I berthyn i barthau Dolgellau heb goll;
Pob mwyniant dymunol, digonol deg iaith,
Dyrwyned i ranan Dolgellau, da’r gwaith;
Tra Meirion ffynnonau fel breintiau ymhob bron,
Tra anwyl ddwfr Wnion ein hafon lân hon,
Digoll fo Dolgellau, a’i llwythau’n byw’n llon;
Ein dyddiau diweddir, a llygrir pob llen,
Dyrwynir hir einioes a byroes i ben;
I’n meddiant gwell moddion na Meirion. Amen.