Gwaith Dewi Wnion/Hiraeth Y Bardd Ar Fedd Ei Gariad

Oddi ar Wicidestun
Anfoniad Y Golomen i Feirionydd Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Cwynfan Y Bardd Ar Ol Ei Chwaer

HIRAETH Y BARDD AR FEDD EI GARIAD

PA orchwyl yw hyn? 'rwy'n dychryn cyn dechreu!
Pa arwydd, pa eiriau ddefnyddiaf fi 'n awr?
'Rwy'n sefyll yn syn yn ymyl glỳn ammhwyll,
Mewn tewaidd niwl tywyll, heb ganwyll na gwawr;

Ce’s frathiad i’r fron, gyfoedion, claf ydwyf,
Cledd einioes cladd ynwyf, tra byddwyf fi byw;
’Does yn yr oes bon arwyddion o’r heddwch,
Er maint yr hyfrydwch a’r harddwch bob rhyw.


Ow! gorwedd, trwm gwyn, mae ’r addfwyn ireiddferch,
Fe’m d’ryswyd o draserch i’r wenferch, mae’n wir;
Tro’i hono, trwy hedd, ei bysedd mewn bywserch,
I lunio brith lanerch i’m hanerch, dro hir;
Ond heddyw trymhau, ’does geiriau o’r gweryd,
'Rwy'n goddef trwm adfyd tan benyd, tỳn bwn;
Y glyd fynwes glau, a’r genan fu’n gweini,
Y llynedd i’m lloni, sy’n tewi’r pryd hwn.


Pan oeddym ni’n nghyd yn myd yr ammodau,
’R oeddd gwirod ei geiriau i’m genau fel gwin;
Er meddu hyn cy’d, trwy sengyd, troes angau
’R pêr aeron pur eiriau yn bläau trwm blin;
Mae’n gorwedd mun gain, yn gelain mewn gwaelod,
Lle isel preswylfod ei hynod gorff hi;
A mwy o’r bedd main, mun desgain, wiw dysgwyl,
Ond llwch mynwent ERFYL mae’n anwyl gan i.