Gwaith Dewi Wnion/Priodas Robert Williames Vaughan, Ysw

Oddi ar Wicidestun
Englynion (3) Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Englynion Llwnc-Destynawl

————

PRIODAS

ROBERT WILLIAMES VAUGHAN, Ysw., Hengwrt, a MISS LLOYD, RHAGGATT, Gorphenaf 8, 1835.

 
GWENA merwina Meirionydd, — ystyr,
Cei destyn can newydd;
Hwylia fir, a hola fydd
Dy fydrwyr yn dafodrydd.
 
Y Beirddion, y Tabyrddau, — ac eraill,
Cyweirwyr y tannau,
Cerddorion glowion yn glau —  
Pawb allan a'u pibellau.

Pa reidiol on'd priodwyd — gwir achau
Goruchel gymharwyd —
Aer Nannau eirian unwyd
Law yn llaw â Frances Llwyd!
 
Vychan yn fwynlan ei foes — Ab Vychan
Pa fuchedd mor ddigroes;
Uno y'nghwlwm einioes
Darfu'n awr hyd derfyn oes.
 
Yn degwch i'n cym'dogaeth, — a'i gwylio,
'N ol galwad Rhagluniaeth;
Dyma ddau yn ddiau ddaeth
O deilwng hen waedoliaeth.
 
Bendithion rhwyddion y rhod — yn ddilys,
A ddel i'w cyfarfod
O'r nef wen, uwch ben sy'n bod,
A'r iesin ddaear isod.


————