Gwaith Dewi Wnion/Y Gwellaif

Oddi ar Wicidestun
Echryslonrwydd Dinas Ar Dan Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Englynion (2)

Y GWELLAIF.


Hyll edrych ar y lladrad—wna'r gwellaif
Wr gwallus, yn wastad ;
E fyn hwn, er ei fwynhad,
A'i ddeufin glog y ddafad.
 
Y Gwellaif a gnaif i ni gnu,—cawn hwn
Cyn hir i'n cynnesu;
Y gwyn wlan a'n llona'n llu,
Du a llwyd, i'n dilladu.

Er y Gwellaif a gnaif gnu—go wlanog,
Ein gliniau sy'n rhynu
Nes cael siswrn, a dwrn du,
Deio Llwyd i'n dilladu.

Dolen o ddur deil yn dda,—y ddan lafn
Yn ddi lwfr a gneifia;
Llafnau dur yn llyfn dora,
A gnaif âg ef cnu fe ga.

Er chwiliwr glew a'r chwalwr gwlan—dewr allu,
Holl droellau Dolobran,
Y Gwellaif hoyw, gloyw, glân,
Cofiwch raid borthi 'r cyfan.


Heb y Gwellaif saif mewn sen,—am ennyd,
Lawer meinir geinwen,
Gan dd'wedyd, - Mae'r byd ar ben
Eleni am bais wlanen!