Gwaith Dewi Wnion/Y Pridd i’r Pridd

Oddi ar Wicidestun
Cwynfan Y Bardd Ar Ol Ei Chwaer Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Dyhuddiant i Mr. T. W. Hancock

Y PRIDD I’R PRIDD.

TÔN — “My Lodging is on the cold ground,”

Y PRIDDYN i’r priddyn a ddisgyn ryw ddydd,
Er ymdrech mawr beunydd, er byw;
Mewn beddrod i bydru, a hyny cyn hir,
Fe’n cleddir, fe’n rhoddir bob rhyw;
Yn ngwaelod y rhych, y gwael fel y gwych,
A’r gŵr mwya’ dewrwych ar dir;
Y cryfaf, rai harddaf, a hwyaf eu hoes,
Ni phery mo’n heinioes yn hir.


Y ddaear mewn daear yn fyddar a fydd,
Yn gorwedd yn llonydd mewn llwch,
Y doeth fel yr annoeth, er cyfoeth, er cêr,
A orwedd tan drymder tỳn drwch;

Y cyfaill, y câr, y gwyllt, fel y gwâr,
Mewn daear ddiglaiar ca’i gloi;
A’r blin trallodedig, o’r sarug oes hon,
A’i haml drafferthion, sy’n ffoi.

Y lludw i’r lludw, er berw mewn byd,
Er drygfyd, er blinfyd oer bla,
Er meddu pob gwynfyd, er hawddfyd, er hedd,
Mewn dyfnfedd hwn gorwedd a ga’;
I’r cryf ac i’r gwan, fe roddir ei ran,
Yr ieuangc mewn oedran yn awr,
A’r hên yn cyd-huno, heb gyffro, tan gudd,
Cyd lechant yn llonydd mewn llawr.

Nid yw ond oferedd a gwagedd i gyd,
Ymboeni mewn hyd am fawr barch,
Ni chawn am ein trwbl yn gwbl i gyd,
O hwn ond ein hŷd yn ein harch;
Hoff adeg i ffoi, gwnawn rasol ymroi,
At Dduw am ein troi ni mewn trefn,
A’r Iesu Oen grasol, hyfrydol heb frâd,
Rydd alwad ddyrchafiad drachefn.