Neidio i'r cynnwys

Gwaith Dewi Wyn/Awdl Elusengarwch

Oddi ar Wicidestun
Arwyrain Amaethyddiaeth Gwaith Dewi Wyn

gan Dafydd Owen (Dewi Wyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gruffydd Dafydd o Frynengan


AWDL ELUSENGARWCH.

"Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd."—SALM xli. 1."
Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rho di echwyn i'r Arglwydd; a'i rodd a dâl efe iddo drachefn."—DIAR. xix. 17.
"Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith. dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef; a thyred, canlyn fi."—MAT. xix. 21.
Crefydd bur, a dihalogedig ger bron Duw a'r Tad, yw hyn; Ymweled â'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd."—IAGO i. 27.


Farnydd, darllennydd dewr llon,—ymholydd
Am helynt Prydyddion;
Edrych y gerdd, hir-gerdd hon,
Gwanafau GWYN O EIFION.


Y Gwaith.
GEIRIAU Elusengarwch;
Pob paladr yn ffladr a fflwch,
Mae plyfyn i'm palf yn awr,
Cof-adail fawr cyfodwch.

Trem ar wrthrychau Elusen.
Gwel yma, O golomen,—cain feindŵr,
Cwynfandy yr angen;
Golwg iawn, amlwg, o'i nen,
Ar lysoedd yr Elusen.

Gwel dylodion, a gwael adeiladau;
Gwragedd, plant, a thrichant o wrth'rychau;
Amddifaid, gweddwon, wareiddion ruddiau;
Un a dyn bychan yn dwyn ei beichiau:
Dyn feichiog, lwydion fochau,—mewn angen
Gweled Elusen dan gelyd loesau.

Lluoedd ar luoedd ar welyau,
Rhwng cilddaint echrys-haint a chroesau;

Holl awch dannedd y lluchedenau;
Chwerw ffrewyll, fflengyll, a phla angau;
Gan anghenion, cwynion yn cynnau;
Elusen deimla 'u heisiau,—a'i chynnes,
Garuaidd fynwes, eu griddfannau.

Tarddiad Angen ac Elusen.
Pechodau, a chwymp chwai Eden—a'u dug
I dagwm yr angen:
Yn rhodd anfonodd Nef wen,
O law Iesu Elusen.

Elusengarwch.
Disgynnodd Duwies gwiwnef,
I'n daear ni, do, o'r nef:
Llysoedd brenhinoedd heini
Islaw ei holl sylw hi.
Chwyddai serch y
Dduwies hon At aelwydydd tylodion;
Agor o'i thrysor wrth raid,
A'i rannu i drueiniaid.
Ni lysir, gan Elusen,
Un cnawd, yn ieuanc na hen:
Edwyn eisiau dyn isel,
Yn hen a gwan, hon a'u gwêl:
A gnawd i hon gwneyd, o hyd,
Hen elyn ei hanwylyd;
Dau anwylyn dynoliaeth,
Brawdyn a gelyn, nid gwaeth.

Haelioni Duw.
Haelionus i'w elynion
Euog a drwg, ydyw'r Iôn:
Bod, einioes, pob daioni,
A roes Nêr, o'i ras, ini:
Pob peth yn ddifeth, hyfwyn;
Rhoi ei un Mab er ein mwyn:

A mwy braint, y Mab a roes,
Do, in' ei waed a'i einioes.

Rhown i Dduw.
Ninnau, na fyddwn anhael,
O'i eiddo 'i hun i Dduw hael
Mor hawdd, yma yw rhoddi,
Rhoddion Iôn yw'r eiddaw ni.
Yn awr, ai rhoi mawr im' yw?
Na, dylêd, neu dâl ydyw.

Plant Duw
Dadleudy i dylodion,
Ei dŷ sydd, pwy dawai sôn?
A rodder i'w rai eiddil,
Llesg, mân, lliosoga mil;
Ei blant Ef, a'i bobl ynt hwy;
Dibrin rhydd eu Tad wobrwy.

Pan yw blew gwallt pen ei blant—o dan rif,
Da in' roi eu porthiant;
Eu galw, cyn hir, gwir, a gânt,
I giniaw y gogoniant.

Delw Duw ar dylawd wr.
Gweld brawd ar ddelw 'Nghreawdwr,
A delw Duw ar dylawd ŵr;
A chofio 'nhlawd Iachawdwr,
Fu un dydd yn gofyn dŵr,
A enynna, yn uniawn,
Fy nhymer dyner a'm dawn.

Hanner yr eiddof, yn awr, a roddwn;
Ac heb ail wrtheb, y cwbl a werthwn,
I roi yn hael er enw Hwn:—teyrnasoedd,
Llawnder y bydoedd oll, nid arbedwn.

Rhoi o hyd yw 'mryd a 'mraint;—daioni
Yw nad wn ogymaint;

Dwyn iawn serch dynion a saint,
Dan deimlad cariad ceraint.

Brodyr o'r un bru.
Mewn ystyr, brodyr o un bru ydym;
Ar y cyntaf, yn Addaf, un oeddym:
Ni, i gyd oll, un gwaed ym,—yn ddiddadl,
Un cnawd ac anadl, ac un Duw gennym.

Yn amodau hunanymwadiad,
Caed amod amlwg cydymdeimlad:
Cyrraedd deheulaw cariad—i bob dyn,
Pe b'ai yn elyn:—pawb un alwad;

Pe'r Tyrciaid, pe'r Awstriaid, pob rhyw estron,
Pe b'ai wael alltud o blith pobl wylltion;
Arddel pob Gwyddel a gwiddon,—cofiwch,
Er bod dyngarwch, trwy'r byd, dan goron.

Porthaf bobl o bob parthau,—a byddaf
Yn porthi nesaf perthynasau;
Rhoi i'r rhai bach, ar air byrr,
Cu frodyr eu cyfreidiau.

Ystyriaf, teimlaf at ham—hen wraig glaf,
Hen wr cloff, ysgwyddgam;
Helynt gwrach legach, lawgam,
Mal ethryb modryb a mam.

Fewythr Wiliam.
Fy nwr hallt yn ddafnau rhed,
Uthr weled fewythr Wiliam;
Mamau, hen neiniau anwyl,
I'r drysau, mewn eisiau'n wyl;
O'r hen wr, mor druan yw!
Fy hen daid, fy nhad ydyw:
Troednoeth, a phen-noeth, a'i ffon,
A'i gydau dan fargodion.

Gwgan oedd, nid gwag o nerth,
Ac arno wir ddelw Gwrnerth;
O gynheddfau gweinyddfawr,
Cyrus, Ahasferus fawr.
Be'n eistedd yn Senedd Sior;
Ef i'w chanol f'ai 'i chynor:
Ac i'w deyrnben, cadarnbwynt
Y lluniai hi'n well na hwynt.

Nid oes yn nau Dŷ y Senedd—ei well;
Ow! O! mae'n beth rhyfedd
Na wnaed hwn yn ynad hedd;
Neu frenin o fawr rinwedd.

Ond yn lle hyn, adyn noeth,
Dan benllwydni, byw'n llednoeth:
Syndod, rhyw Alecsander
Mawr fel hyn; Ow! mor aflêr!

Ac yn lle nodwisg o gynlluniadau,
Eurwisg, sidanwisg, ac ysnodenau;
Urddedig arwyddiadau—coneddus;
Dyma'nhad Brutus a dim ond bratiau.
Nid oedd byddinoedd ei ddoniau —helaeth,
Nemor wasanaeth mewn ymrysonau;
Ond erydr a phladuriau,—oedd destyn
Ei ddawn; ac wedyn i ddwyn y cydau!

Tlodion Gwynedd.
Henaint a ieuaint teg wedd,
O ganol Llwythau Gwynedd;
Rhai'n hannu o frenhinoedd;
Am gardawd o flawd rhont floedd.

Tlodi rhianedd.
Rhianedd, rhai o honynt—lun boddiawl;
Delw ein Buddug arnynt;
Ac Elen deg, addien gynt
Lueddog, a hîl iddynt.

Tlodi plant.
Rhosynau blodau o blant—yn edrych
Yn odrist, ar ddiflant;
Eu rhinweddau, gorau, gant,
A hwy'n ieuainc, hen wywant.

Gwel lwyd-foch ag ol adfyd;—ac arwydd
Mai curio mae'r ysbryd;
Gwanychu, dygngnoi iechyd;
A dwyn gwedd y dyn i gyd.

Prinder a phob rhyw wendid,—a'u malant
Rhwng ymylau gofid;
Gorthrymder, llymder, a llid,
Ac anhunedd cynhenid.

Cydymdeimlad Elusen.
Hwy wyneblwydant yn eu blodau:
Gnawd i'r anwydog wneyd oernadau;
Gwel Elusen, ac a glyw leisiau,
Eu hoch'neidion a'u tuchaniadau:
Er achub ei gwrth'rychau,—goebrwydd
Y gyrr ei dedwydd, anwyl gardodau.
Arddengys ei bys bob eisiau;—estyn
Ei llaw, i'r adyn, ei holl wir reidiau.

Ei threfniadau, wrth reolau;
Yn ei cheisiau, iawn achosion:
Cyfraniadau, wrth fesurau,
O'i delidau, i dylodion.

Sefydliadau Elusen.
Saif hyd wledydd ei hen sefydliadau;
Manteision di brinion, hyd wybrenau:
Ac nid yw pob gwiwras Gymdeithasau,
O'r Fam a'r Fanon hon ond canghennau:
Golygir y prif golegau—mal hen
Erddi Elusen o iraidd lysiau. Elusengarwch.

Athrawon Elusen.
Mae'n addas im' unwedd son,
Athrawon gwiw a thrywel;

Mae Pindar a meib Handel,—wrth natur,
Gwerth Newton a Herschel;
Mae Olen a Galen, gwêl,
Yn y drysau'n dra isel.

Rhai o ddefnydd rhyw Ddyfnwal;—ein Tydain,
A'n Tewdwr dihafal;
Lluyddwyr, rhyfelwyr fal
Caradog, a'r cawr Idwal.
 
Yr un o fil, o'r rhain f'o
Yn ei choleg yn chwilio,
Acw â yn falch cyn ei fedd,
I wasanaeth y Senedd;
Ar ei thraul, mawr a thrylen,
Megys gwr llys a gwr llên;
Y sy'n awr o'i oes yn ol,
Athraw fydd, doeth ryfeddol.
Dyfynydd, beirniedydd noeth;
Chwalddart treithiau uchelddoeth:
Oni bo 'i ddoethineb ef
Uwch ben Sulien a Selef;
Gwel ffaeledd Gil a Ffwler;
I wŷr mal hwynt rhoi aml herr.
Bydd miloedd, oesoedd isod,
Yn tynnu at ei iawn nôd.

Ys iawnddoeth Elusenddysg—i'w choleg;
Uchelion wyr mawrddysg;
A thra ynddynt athronddysg,
G'ronw Môn gair yn eu mysg.

Pobl druon, lwydion, ddi oludoedd;
Eithr ydynt mewn ffydd a gweithredoedd,

Yn cludog, gyfoethog fythoedd;
Cyn hir, eneinir hwy'n frenhinoedd;
Tro nesaf, ca'nt deyrnasoedd—i'w mwynhau;
Heb naws o eisiau:—byw'n oesoesoedd.

Lot a roddodd lety, o'r eiddo,
I engyl nef; haddef yw iddo:
Mwy'r fraint a'r haeddiant i a'i rhoddo,
I'w brenhinoedd, heb arian, heno.
Cardotyn, bid cariad ato;—weithion,
Mynnodd y breision ym yn ddibrisio;
Cardotyn fydd, cred eto,—yn nheyrnas
Duw, a deg dinas odidog dano.

Rhoi bwyd sy' well na'r bydoedd—i fagu
Pendefigion nefoedd:
Groesawu gwyr sy' ar goedd,
Fry'n eu henwau'n frenhinoedd.

Elusen a Degwm.
Darbodaeth Awdur bydoedd,
Wrth ei air a'i gyfraith oedd:
Ordinhad, ni roed o nef,
Fwy diddadl i fyd addef.
Pennod heb raid esponiaw;
Amlwg ar bob llwg a llaw.
Hen Feibl, a hwn o'i faboed,
Sydd dros yr achos, erioed;
Yr Iubili ar ei blaid;
A degwm, dâl bendigaid;
Tâl ydoedd i'r tylodion;
A thâl at wasanaeth Iôn.

Duw a'r gweddwon.
Ys dyunwyd ei hachos daionus,
A'r dwyfawl, gynaddawl gogoneddus;
Am hyn rhaid addef mai anrhydeddus,
Yw gwneuthur Elusen i'r anghenus:

Y GWEITHIWR.

"Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar et ewin."


Hynod mor anghydmharus—cymdeithion,
Duw mawr a gweddwon llwydion, trallodus.

Ni ddichon y ddau achos,
O barth anwyl berthynas,
Wahanu byth; ni bu os;
Pâr ydynt mewn priodas.

Ysgrifen Moesen.
Israel a gadd brif addysg,
Ysgrifen Moesen i'w mysg;
Duwiolion pob ardaloedd,
Eu bri, a'u crefydd bur oedd:
Siob, wr gwiw a syberw gêd,—a chwiliai
Gwynion na wyddai, a gwnai nodded.

Dysgeidiaeth Crist.
IESU, pan ymddangosodd,—wir Athro;
Ei hethryb cyfnerthodd:
Efengyl ni chyfyngodd
Ar hon, mewn un rhan na modd.

Nid lloffion, nid cyrion cae;
Maes y rhan a mesur hwy:
Nid wrth lên Moesen y mae;
Cariad Samariad sy mwy.
Iawn y dysg in, "Dos a gwerth—a feddych:
Dod wirfoddol aberth,
I'r tylawd un gnawd, gwan nerth,—newynog,
Anwydog, ofnog, hen, digyfnerth.

Ac o cheri Iesu Grist fel Cristion,
Amlyga dy gariad i'r tlawd gwirion:
Edrych am anwyl gadw ei orch'mynion;
O gwnei ryw giniaw, gwna i rai gweinion;

Ac nid rhai goludog, cyfoethogion:
Nid cyfarch a gwneyd cofion; ond gweithred:
Rhoi tirion nodded i'r truain weddwon,

"Ac wrth weithredu'n ddi goll,
Na udgana; dyma'r dull;
Boed na wypo byd, nepell;
Ie, naill law a wnel llall."

Yn y dirgel, gwêl Duw'r gwaith,—lle byddo,
A mawr ei foddio mae'r ufuddwaith.
Cardodau y credadyn,
A'i arlwy hael ar ol hyn,
I'w ddilyn a ddaw ailwaith.

Nid iaspis, aur, a grisial;
Ni bu ariant na beryl,
A ro'er i'r tlawd, dydd brawd dâl,
Ei ddangos i ŵydd engyl.

Crist pan ddél, arddel, mewn urddas,—y gwaith,
Ar goedd y tair teyrnas:
Ac am weini cymwynas,
Bydd mawr wobrwy, drwy râd ras.

Gwobr Elusen.
Tlodion y'nt deulu da Nâf,
Llios o'i frodyr lleiaf:
A weinyddo un nodded,
I'r rhai'n a ga' orhoen gêd:
Yn y ne', dyle dilyth,
Mamon yn gyfeillion fyth.
Cânt ogoniant digynnen,
Teyrnas, gwych balas, uwch ben;
Y'ngwawl anfeidrawl nef wen;—coronau,
Gemau a thlysau o waith Elusen.


Y rhai yn awr a heuant—eu maesydd,
Dim eisiau ni welant;
Os i'r bedd, ar ddiwedd ânt,
I fedi adgyfodant;
Myned i fyd y mwyniant,
Y' myd y nef medi wnant.

Byw a Marw'r Cybydd.
Ond garw, Ow! mor welw awr marwolaeth,
Ydyw y sennwr diwasanaeth,
A roes ei ariant ar usuriaeth;
A gado'r tlawd i gydiaeth—mewn trychni,
A dir galedi ei dreigladaeth.
 
Yn ei liain main, mynnai
Fyw'n foethwych, dan fynych fai:
Llidiodd wrth bob llwydaidd ddyn,
Yn ei ddrysau'n ddi resyn;
I ddwyn dim oedd yn ei dai,
Ni thyciai gair na thocyn:
Rhoi i'w gwn, ar ei giniaw;
Ond dal y trist ddyn tlawd draw.
Ymhyllai, dwrdiai bob dydd,
Cernodiai eu cornwydydd;
Dydd y farn gadarn, ar goedd;
Eithradwy y gweithredoedd;
Duw a rydd ei dir a'i waith,
A'i hen eiddo yn oddaith;
A bydd yr hen gybydd gau,
Yn eu canol yn cynnau;
Ei dda, am fyth, i ddim fydd,
Ond i'w enaid yn danwydd.
Nis gwnaed gwisg i'w enaid gau,
Na 'i gorff llwm, ond gwaew'r fflamau.

Ni cha' yntef yn grefwr,
Byth yn ei safn ddafn o ddŵr,
I oeri tafod eirias;
Dloted fydd y cybydd câs.

Crist a'r Cybydd.
Crist ni fyn ei ddilyn, na 'i addoli,
O fydol annyn f'o di haelioni;
Gwel adyn dan galedi,—a'i dda maith
I'w dynn goffr; ymaith âi dan gyffromi.

Yr Eglwys Fore.
Blodeuog bobl Iudea,
Oblegid erlid, eu da
Cyffredin, coffhair, ydoedd;
Oll eiddynt, rhyngddynt yr oedd.
Annhrefn y swydd hylwydd hon,
Ataliai'r apostolion;
A'u gofal er cynnal, caid,
Gwragedd gweddwon y Groegiaid.

Casglu a threfnu, wrth raid,—eglwysig
Elusen i'r gweiniaid;
Tyst hoff in' gynt, Stephan gaid,
Deg gynor diaconiaid.

Pa sut, eilwaith, mae'r apostolion,
Ag eirch eu miniawg orchymynion?
Yn ol y rheol bur hon,—hyd heddyw,
Cyfartal ydyw cofio'r tlodion.

I'w plith rhoi Paul athrawus
Dragwyddol reol ddi rus.
Cardotai'r cywir Ditus,—trysorydd
Oedd, a chasgliedydd i'w hachos clodus;
Bu'r mâd Ganwriad, yn wir,
Was cywir, a Zaccheus.


Dacw'r anwylyd Cornelius— drugarog:
A'i feddwl enwog, ufudd, haelionus;
Swniodd ei Eluseni,
Hyd nef, y'nghlustiau'n Duw ni.

Os cair, funudyn, eu 'sgrifeniadau;
O mal y soniant am Elusenau;
A thaerion yw'r llythyrau,—heb ffuant,
O un rhyw siomiant yn y rhesymau.

Elusen anfeidrol Crist.
Ys Crist, yn drist, dan boen drom,
Fu o'i rad ras farw drosom;
Gwael na roem, o galon rydd,
Ein golud dros ein gilydd.
Gwiliwn ddrwg galon ddi ras,
Annuwiol Annanias.

Elusen yn teithio o'r Dwyrain.
Ei gwybodaeth helaeth oedd,
Acw yn Asia'r cynoesoedd;
I Frydain, o'r Dwyrain, daeth,
Ar ei thro, yr athrawiaeth.

Cyrraedd Prydain.
Ac yn ein Prydain wen, gain, ogoned,
Gwladychodd, hydreiddiodd, a chadd drwydded;
O drysor llawn, drws ar led—oddeutu,
Lle i wasgaru a llys agored.
 
Cyn cred, ddeheued oedd hon;
O'i thu'r oedd doeth Dderwyddon;
Ond, er dawed cred, cair hi
Trwy'r Gair yn tra rhagori.
Cydsynio caed y Senedd,
I'w choroni hi mewn hedd;

 
A chai le yn uchel lŷs
Brenhinoedd bore'n hynys;
A'i baniar uwch Unbenaeth
Holl lys yr Ynys fawr aeth.

Ein gorhaelion fawrion annifeiriawl;
Mordaf a Nudd, hen Gymry defnyddiawl,
A'n Rhydderch yn orhaeddawl—o'u coffhau;
Cu iawn yw henwau'r fath wyr cynhwynawl.

Cariad Prydain at Elusen.
Moliannwyd, am haelioni,
Ein tad Naf, a'n teidiau ni;
Dyngarwyr dynion gorhael;
Cofier hyn, ac Ifor Hael.
O bydded i bawb addef,
Filoedd o'i hefelydd ef.
Mawr yw meib Cymru, a'i Môn;
Mwy na Rhydderch mewn rhoddion:
Lliosawg bob lle, eisoes,
Yw mawrion haelion ein hoes:
Dyma wyrda, had Mordaf;
Heidio o ne' mae had Nâf.
Ys cryf fu Selyf a Siob,
Mae'n awr wŷr mwy yn Ewrob.
Rhannu'n awr, yn aneirif,
Mae cynrain y Brydain brif:
Talent ar dalent yw'r dylif;—ffyrling,
Hadling ar hadling yr ehedlif.

Dyngar, Elusengar swydd;
Gwiwddrych boneddigeiddrwydd.
Yn yr Ynys wen, ariannog,
Hael, gywreiniawl a gorenwog,
Tai Elusen y'nt liosog;
Onid ydynt iawn odidog?

Didrai rhy' rywrai arian,—ddigonedd
I gynnal y cyfan:
Di gyrrith fendith i'r fan
Lle deillio, o hyd, allan.

Adnoddau Elusen.
Syndod, bob Elusendai!—
Ba fath draul, ac heb fyth drai!
I'r rhai'n, ba seilfain, be sydd?
Neud y mwnai'n domenydd.
Prif fwn—glawdd cudd, hawdd cadd hi,
Cyfnerthydd, neud cefn wrthi;
Gwythen oedd, gwaith iawn addef,
A'i phen anorffen yn nef,
Ar draul hon, rhodio ar led,
Ac arddelwi gorddyled;
A dreuliaw daearolion,
Ni leiha gornelau hon:
Ni dderfydd nawdd ei harfoll,
Pyrsau Duw; pa arswyd oll?

Pres fwnai Paris Fynydd,—aur Periw
Eu parhad a dderfydd:
Rhad hon, heb unon, beunydd,

Duw'n Drysorydd.
Yn fwy fwy o nef a fydd,
Daioni a dywenydd,
Ail i'r haul a'i oleu rhydd:
Y Duw da fu'n gwneyd y dydd,
A'r twrr ser, yw'r Trysorydd;
Efe a lywia'n ddi lŷs,
Ei waith oll, wrth ei 'wyllys;
Mewn munud, man y mynnawdd,
Y dŵr yn win a droi'n hawdd.
Trumau Ewrob, creig bro brid

Eryr, gwnai'n fyrierid;
A'r clai'n fwnai neu fânaur,
Ail i Beriw lwybrau aur.
Anian fawr a wna'n forwyn,
Ednod a physg dysg i'w dwyn.
Pïydd aur ac epaod,
Ac oll a fu, ac eill fod;
Y ddaear yw eiddo'r Iôn:
Holl nwyfau, a llu Neifion;
Lloer, a'i nwyfau, llu'r nefoedd,
Eiddo y cwbl, ddaw ac oedd.
Ei radau ymddiriedodd,
Dan eu rhif, Duw in' a'u rhodd;
Nid ein heiddo ni ydynt,
Ei eiddo Ef heddyw y'nt;
O'i drysawr gwerthfawr ar g'oedd
Torrwn eisiau teyrnasoedd.
Na chynilwch, anwylyd;
Tâl Duw gôst y tlawd i gyd.

Treth deg Elusen.
Ni bu annoeth Unbennau—ein Hynys;
Ni honnwyd gwrthddeddfau:
Rhoed i'r hyn y perthyn, pau
Prydain, a'i darpariadau,

Telaid hawl y tlawd yw hon;
A threthir ei thir weithon;
E dretha'n Llywodraethydd
Bob cwys o'n Paradwys rydd.

Elusen Sior y Trydydd.
Rhaith Duw Ior a'n Sior ni sydd—yn union
Un goelion a'u gilydd;—
O blaid y tlawd, a ffawd ffydd,
Y troedia Sior y Trydydd.


CROESFFORDD MAUGHAN.


Y Sior uchelwaed sy' or'chwyliwr
Ei dylodion, a'u da lywiawdwr;
Ymgeledd gorsedd y gŵr—i'w faon,
Wna glod i goron ein gwladgarwr.

Ie, 'i dylodion, ei deulu ydynt;
Parodd eu harddel, dirprwyodd erddynt;
Boneddion bawb o naddynt;— cyfreithwyr
Rhôi, a'n seneddwyr yn weision iddynt,

Gweddi dros Sior a'i deulu.
Ein cynor Sior, ar ei sedd,
Adfero Duw ei fawredd
I'w iechyd, a'i fywyd f'o
Ddyddiau hedd i'w ddyhuddo;
A'i had a f'o hyd y farn,
I'n ciwdawd yn ben cadarn:
A chorff y wlad yn wychr, fflwch,—dan dirion
Loew, iesin goron Elusengarwch.

Nid degwm, ond digon.
O'r degfed bu gêd pob gwan,
Ac anghenog, y'Nghanan:
Ond gwyddys, i'n Hynys hon,
Mai nid degwm, ond digon.
Rhoir digon i weinion wŷr;
(Mae'r degwm i'r diogwyr?)
Rhyw deyrnged ddi rifedi;
Cyhyd a'r rhaid codir hi,
Dreth ddinac; diwrthwyneb
Aerdreth, o flaen ardreth neb. "
Ai hwy" ('n fwyn, un ofynnai,) "
Yw arglwyddi'r tir a'r tai?"
O!'n awr, dedwyddach i ni,
A chwe rhwyddach yw rhoddi:
Hau'n helaeth, helaeth â hi;


Gwyn-fyd yn nef gawn fedi:
Rhoddi wna drysori sail,
A chodi goruwch adail.
Rhyw ddyn a wasgarodd dda,
Gai 'chwaneg, o echwyna.
Pa fraint sy cymaint, os caf,
Roi echwyn i'r Goruchaf?

Ac heblaw hynny, y cwbl a henwyd,
Pa faint o ariaint eto a yrrwyd
O Frydain, pan ddifrodwyd—taleithiau?
Am Elusenau hon aml y soniwyd.

Prydain a'r gorthrymedig.
Pan fu goruthrau, taranau trinoedd,
Yn taro'n isel iawn y teyrnasoedd
A draws-feddiannid gan drais-fyddinoedd,
Mawr, O!'r dolur gai amryw ardaloedd.
Draen du i lawer dirion deuluoedd;
Troi'n ffoaduriaid, drwy anffawd yrroedd,
O'u cyfaneddau acw i fynyddoedd;
Aberthai Brydain lydain oludoedd,
Blaendorrai eu blinderoedd:—bendithion
Y truenusion ddont arni oesoedd.

Caethiwed, llaw galed, lle y gwelai;
Gerwin lymder, croch oerder carchardai;
Yn dosturus, arwylus eiriolai,
Ar ran y dinerth, er nad adwaenai:
Casglodd, anfonodd fwnai—i'w gwared;
Hoew law—agored, a hael y gyrrai.

Ac os cwn, neu faeddod cas, canfyddai,
Yn darnio y ddafad wirion, ddifai;
Gan ei brydwaed, ei gwyneb a wridiai:
Ein hen Brydain i'w hwynebau rhedai;
A chwbl allodd achubai,—gwobrwyon
Gan is-raddolion, gwn nas arddelwai.

Gwlad Elusen.
Prydain sydd, parhaed yn son,
Yn meddu dawn a moddion;
A'i hofn, a'i pharch, fwy na phob
Lle arall yn holl Ewrob:
Ei chyfoeth mawr, a'i chofion,
Yn ddi ri' sydd yr oes hon;
Deall y byd oll o'i ben,
Gwel dlysau gwlad Elusen.

Y Feibl Gymdeithas.
Yr oes hon, er ys ennyd,
Cair hi'n berl coronau byd:
Er ei gwawrddydd o rydd ras;
Dwthwn y Feibl Gymdeithas,
Elusen Elusenau,
Beth am hon byth i'w mwyhau?
O rhyfedd, yr Iehofah,
Rhoi 'i hun i ddyn yn rhan dda;
Hynod ddarbod; e dderbyn.
Yntau o gardodau dyn.
Hynod iawn y daioni,
Yr Ior nef, rhoi 'i Air i ni;
Mwy rhyfedd, Duw mawr, hefyd,
A'i Lyfr bach ar blwyfau'r byd.

Elusen yn teithio'n ol i'r Dwyrain.
Od aeth y fendith hyd eithaf India,
O'i da ewyllys hi a'u diwalla;
Llwybr i'w chyniwair lle bu arch Noah,
Aed o'r Ararat i dir Aurora;
O'r Ynys, moried i'r hen Samaria;
Dychwel hi'n dawel i hen Iudea;
Ys llafur hon nis llwfrha;—adnebydd
Y cu leferydd ochrau Calfaria;
Cyn hir pregethir ar ben Golgotha,

Neu, mewn mawr awydd, yn mhen Moriah,
Yr Olew-wydd, a mynydd Amana;
Daw'r amser da'r adfer Duw ryw oedfa,—
Pwy? Hen eglwysydd penigol Asia:
Cenhadon can' eu hwda—o fyned;
Neud drws agored, nid rhyw segura.
Hwt, y Bwystfil, gau Broffwyd heb westfa;
Neb, neb o'u deiliaid na bo'n Abdalah.
Cwymp Babel uchel dan bla,—yn ei hawr;
Wele oleuwawr! Wi! Haleluiah!
Ansawdd oer Ynysoedd Iâ—cynhesed,
Eich tir, O caned, a choed Hercynia.
Oian, ho, hoian, ha, ha;—crechwenir
Yn nef, ban gwelir gan feibion Gwalia,
Dawn Dduw'n dwyn newyddion da—i'w hoff dir
Hermon a Senir, Amen, Hosannah.

Daw'r genedl adre' i Ganan;—daw ail
Adeiliaw coed Liban;
Daw mil myrdd o demlau mân,—mewn purdeb
O odre Horeb, draw, i Haran:
Ac hefyd, y byd cyfan,—a fynn hi,
Yn glau, goroni; ac ail greu anian.

Hynt Elusen.
Cyn hir, gwreiddir gwir addysg
Iesu mawr, a'i ras, y'mysg
Paganiaid y pegynau,
Lle bydd eglwysydd, yn glau;
Crist'nogion ffrwythlon a phrif
Henuriaid yn aneirif.
Da dwg addoldai digoll,
O'r Indus i'r Andes holl;
O'r Mynydd Gwyn i'r Minho,
Caspin, Appenin, y Po;

Tai mawl, o faint temlau fo
O'r Ganges fawr i Gongo.
Wele'r gwyllt addolwyr gau,
O'r miloedd, ar ymylau
Ganges; b'o hanes pau hon,
Fwy enwog nag fu Ainon;
Heb warth mwy aberthu myrdd,
I fawr gerhynt dwfr gorwyrdd.

Bedyddio'n lle boddi.

Nid boddi enaid byddant;
Byd ddaw'n well, bedyddio wnant;
Un buch a'r Eunuch yr ant;—i Grist mwy,
O fodd hwy ufuddhant.

Urdduniant yr Iorddonen
Fo 'u deddf hwy, fedyddfa hen;
Lle bu yn malu miloedd,
Olwyn y certh eilun c'oedd,
Ni fydd draw, man fu ddi drefn,
Ar fyrr, unrhyw fawr annrhefn,
Na gaulun i'w ogelyd,
O begwn i begwn byd.
Cytun fydd Catai hen, faith,
A Chafres, dan ei chyfraith.
Cenhadon acw yn hudaw
At Grist, y byd trist, boed draw.
Cofiant o lwyddiant di lys,
Eluseni'r las Ynys.
Y rhawg cofir rhoi cyfoeth,
Ac aur nef i Negro noeth.

Y Gaethfasnach erchyll
Nid tywys Indiaid duon—mwy'n orthrwm,
Yn wrth'rych torr calon;
Ond, er lles i'n brodyr llon,
Rhoi addysg i'r gwyr rhyddion.

Yn flin fal anifeiliaid,—yn gaethion,
Y gweithiai trueiniaid;
Eu llafur oedd bur ddi baid,
Goris tynbwys gwres tanbaid.

Ow! dyn, bryfyn brau, afiach,
Yn dwyn ei bwn, adyn bach;
Rhag ei weled rhed yr haul,
Wres araul, yn brysurach.
Ar ladron dynion nid oes
Gywilydd weld eu gwaewloes.
Gwrthuni gwerthu einioes,
Trwy ben Elusen a'n loes:
Fyth na fid y fath an foes
Ar Ewrob, a'i gwyr eirioes,
A dwyn gwiw eneidiau'n gaeth,
Drwy ofnadwy drefnidiaeth;
A dynoliaeth dan wylo,
A gwedd wael, yn gwaeddi
Oh! Fferdinand cyffroed yn awr,
A Lewis ar oleuwawr;
Na b'o yn hwy unben hyll
Gelli, a'i ddaint yn gyllyll.

Wilberforce a Howard.
Dros bedeiroes, bid araith
Wilberforce, oleubraff iaith,
I'r byd yn brif ysgrifen;
Hardd amgylcher llawer llen:
Drwy holl Ewrob yn mhob man,
Llinellau, o hyn allan;
Geiriau ei bwnc gorwiw, bid
Arwyddair i wir Ryddid.
Un gair, yn ddisglair, neu ddau,
Fo'n arwydd ar fanerau;

Ar ffyd, neu gerbyd pob gwr
A'r sy'n eiddo'r Seneddwr
Yn Senedd Hispaen swnio,
A phregeth ddi feth a f'o:
Llwybrau brâd, lle bu'r iau brês,
Ac artaith lladdfeydd Cortes;
Haelwyr da fal Howard, fo
Lwyddiannus, filoedd, yno,
Unawl, ac un hawl, cyn hir,
Caf India a'n Cyfandir;
Ac nid erlid cnawd, arlwy,
A dwyn y meib duon, mwy;
Elusen yn gowenu,
O gariad ar Negro du.

Cyfiawnder i India.
Dan with hon, dynoliaeth dda,
Cyfiawnder caf i India;
I'w thref, Yspyty ac Athrofa—bydd,
Erbyn a'u gilydd yn nhir Benguela.
Dwyn i fod ddefod ddifai,—nefolaidd,
Eglwysi Indiaidd ac elusendai;
I'r enwir a'r anwar rai,—dysg urddas
Hen wersi Gildas yn yr ysgoldai.
Gwiblwythi'r coed-dir, Catai,—bro'r Ganges,
Andes, y Gafres yn dysgu Efrai:
Y fwyn Efengyl, heb fai,
Trwy wir grefft yr argraffdai;
Mewn llyfr, a dim mwy na llai,—argraffir,
Cyn hir, yn Senir, ac yn'r hen Sinai:
O! gwyn fyd! O gwae na f'ai—heb gerflun,
Na delw neu eilun hyd lannau Ulai.

Cyfieithwyr Beiblau.
Ymdrwsio mae dros y mŷr,
Acw i faethu cyfieithwyr;

Mwy boed nawdd meib duon wyr,—plant gwylltion
Fu'n byw yn noethion fo'n benieithwyr.
Meib i Garey 'mhob gorawr,
Canwyf mwy, cynhaeaf mawr.

Elusen a'r Pagan.
Ynfydion dan ofidiau,—gwirioniaid
Gorynys y Dehau;
O chaiff aur a chyffyriau,
Nis meth hon eu hesmwythau.

Dwyn nwyd-wyllt waew-eneidiau—cythreulig,
Rai gwallcof loerig i well cyflyrau:
O gariad, gwneyd ei gorau,—na bo'n gaeth
Neb, yn ysglyfaeth i'w boenus glwyfau.
Y gorddeirch ydynt ei gwir ddyrchedig;
Hwynt fynn nodi ei chyntaf—anedig:
Gwena a gwrida'n garedig—arnynt;
A denfyn iddynt yn ofoneddig.
Diwalla, dyhudda hon
Alltudion trallodedig.
Prydain fu'n peri adwyth
I deulu pell, dâl y pwyth;
Elw trais yn ol eto rhydd
I'r byd ar ei bedwerydd,
Drwy estyn dros y donn draw—bob moddion,
O'i gwiwfawr roddion i'w gyfarwyddaw.

Seneddwyr Prydain ac Elusen.
Yma i'r Senedd, wiw ymrysonau,
Y cair rhyddfreinwyr cywir ddwyfronnau;
Dyngarwyr, gwladgarwyr o glod gorau;
Gwerin bleidwyr dan goron a blodau;
Dros y tlawd, didlawd eu dadlau:—gwarant
In' y try llwyddiant eu haur—allweddau. Elusengarwch.

Ac os oedd dda gosod gwiw swyddgeiswyr,
Yn newydd, orchwylus, gynddrychiolwyr;
Ni a'u disgwyliwn, onid oes gwaelwyr,
Ein gweinidogion gwiw, a'n diwygwyr:
Nid i ddifa'n dioddefwyr—tlodion,
Na dal yn gaethion dwylo ein gweithwyr.

Dadl Masnach Rydd.
Symudwch y dreth sy'n dyfetha;
Un glo'n aberoedd, un gwlan a bara;
Ac un halen, rho'wch ar y cwn hela,
Neu ar deulu Endor, a dail India:
Neu wnewch yn unionach na hyn yna.
Alban, Lloegr, clybwn oll, â—chwerw iawn floedd;
Llais ein cenedloedd oll sy'n cynadla.
Trethydd yd, nid rhith o dda,—dilewch
Olwg, O gwyliwch lewygu Gwalia!

Arlwy na b'o mwy yn mhob man,—rhwng holl
Ringylliaid pedryfan;
Gridyllio'r gair du allan,
Lloegr gôch yn llewygu'r gwan.

Y ddwyradd Senedd wiwrif,—iawn syniont
Hyn o senn o ddifrif.
Tai disgraid, at Ŷd-ysgrif,
A fo'n peryfon a'n prif.

Na foed gormod baich.
Nid bod blwyddyn a blwyddyn yn bloddest;
A cheisio gwleddoedd o'u chwys, a gloddest;
Ond arwain barn mewn dirwest,—o bobtu;
Yna llewyrchu wna llai o orchest.

Na bo unpeth yn benpwn;
Llwyth rhy fawr, rhag llethu'r fenn:

Gyrrwr teg, ar riwiau'r tynn,
Ni yrr ei wêf yn rhy wan.

Ys cymwys y nodais y camsyniadau;
Deued adgodiad, a diwygiadau;
Bywyd tylodion heb ataliadau;
Ac na bo ochain gan waew eu beichiau;
Uchel dwyll, a chaled iau,—gan druain,
Mwy; ac y' Mrydain dim camhaeriadau.

Anghyfiawnder, mam Gwrthryfel.
Gwir athrofa gwrthryfel
Yw'r frysgyll daer, fraisg lle dêl;
Ni ddaw i'n blingaw ni blaid,
Yn Mrydain o Nimrodiaid;
Yn ysgol hedd nis gwel hi
Un Gwrtheyrn, na gwarth arni.

Ond hwy a ledant i'w hewaint tlodion,
Eu calonnau a'u dorau, yn dirion;
Ystyriant eu heisiau taerion;—cofiant
Mor dda a fyddant mewn myrdd o foddion.

Y tir amaethant, gwnant bob trymweithiau;
Ein tir diffynnant trwy waed a phoenau;
Cyrn ein teyrnas, gwaisg urddas, gosgorddau,
Yn gwrthdrin gâlon, greulon, hagr aeliau;
Morwyr, moraerwyr, grym i'w mawreiau,
I drosi llynges hyd wersyll angau:
Dwyn pwys Celfyddyd ein pau;—ac hebddynt.
I ba blwy'r hèlynt bobl y rheolau?

Ein boneddion, byw'n haeddawl—y byddont,
Er budd cyffredinawl;
Ac er mwyn cyweirio 'u mawl
Yn Iforiaid anfarwawl.


Cyni'r Gweithiwr.
Yn ymyl barn, aml y bu
Drudaniaeth yn dirdynnu:
Gwaethu cyflog y gweithiwr;
Arno bu curo bob cwrr.
Mae y gwr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw:
Dan oer hin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith;
Bu ganwaith heb giniaw.

Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin;
A llwm yw ei gotwm, gwel,
Durfing i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn brês oer, braidd.
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll, agos a llewygu?
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rho'i angen un rhwng y naw.
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyrr galon graig i wylo:
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyrr.

Rhoddaf iddynt o'm da.
Af yn awr, os erys fy nhrysorau,
Yn y tryfesur torraf eu heisiau:
Ys y'nt weithion yn noethion dan aethau;
Ydd hil haelionus a ddel o'u lwynau,
Ond odid, dan wendidau,—nad f wyrion,
A berth ddanteithion a borthant hwythau.

Pwy wyr pa ddamchwa a ddymchwel—'y mwrdd?
A'm hurddau goruchel,—

Chwith, ni wy's dim chwaith, nes dêl
Mawr drysawr Duw i'r isel.

Llawer man lleiheir mwnai;
Rhyw ail drefn i'r awel droi:
Daoedd, a thiroedd, a thai,
Iechyd a pharch wedi ffoi.

Ni threngaf, er rhuthr angen,—dan ofal
Duw nef, ac nid amgen;
Caf fwynhau, caf fyw yn hen,
Ryw ail oes ar Elusen.

Gweithiaf, ac enillaf arian.
Ond gweithiaf yn ddyfal a gofalus;
Enillaf arian, yn ddyn llafurus;
Fy alaf arbedaf yn ddarbodus;
Nid i'w claddu yn do cywilyddus,
I rydu; na 'u treulio yn afradus;
Ond rhannu i'r truenus,—a'u llonni,
O'm holl ddaioni, a 'myw llwyddiannus:

Lle i roi arian.
Rhoi'nghynnydd i'r anghenog,
Arian-lle da i roi'n llog:
Mechnïydd, dyledydd di lŷth,
Llaw gaf fyth hollgyfoethog.
Rhyw hogiau, a rhai egwan,—yw'r pyrsau;
Ie,'r gôd orau i gadw arian.

Tlotyn, angel yn canlyn.
Ys oedd minteioedd tewion,—i'r drysau,
Ar draws, o dylodion;
Bendithir, cyn hir, gan Ion,
Tai'r gwragedd trugarogion.

Credu ateb cardotyn—gwan, distadl,
Gan dystion sy'n canlyn;

Nabod iaith wyneb y dyn,
Tecach na llawer tocyn.

Digon o dystion distaw—yw'r corpws,
A'r carpiau am danaw;
Tru yw dull hwn, troed a llaw,
R wy'n gweled, bron ag wylaw.

Daw atoch hen gardotyn,—rhai i'engaidd;
Rhyw angel yn canlyn;
Gwel yn deg, drwy galon dyn,
Ba groesaw ga' feib gresyn.

Pawb i'w le, Elusen at eisiau.
Rhai beilchion, breisgion ein bro,
Caerbaddon ceir i'w boddio;
Ac wedy'n, gwenyn yn gwau,
Carant, cofleidiant flodau;
Sais ei bwnc; a Swiss i'w bau;
Elusen lle gwel eisiau.

Gwaith Elusen.
Melysu mae Elusen,
Y bustl, a'r huddugl, o'i ben:
Gyrr chwerwder o garchardai;
Newyn y lleidr a wna'n llai.
Nid bai a noda â'i bys;
Ond angen hi a'i dengys.

Natur Elusen.
Gwreichionen, haden yw hi
O ras Ion a'i resyni.

Henffych well iddi.
Aed ogylch, a diwygio,
Diwallu byd oll y b'o:
Teyrnasoedd truenusion,
Draws a hyd, a drwsio hon;

Gwellhau pob llwythau i'w plith:
Hyd Banda aed ei bendith.
Anrhydedd y Gogledd gweld
Ei phrif-ffyrdd drwy'r Dophraffeld.
O'r Appenin i'r pinwydd,
O dywyn i benrhyn bydd;
Pob pant, bryn, nant, pob rhyw nen,
Oll lle dringo lleidr angen;
Draw rhaeadru drwy'r hydred,
Mwynder hon, fal Moendor, rhed;
O'i golud, byth, gwlaw di baid,
Mae digon i'r Madogiaid.
Llwyddiannus ca' Elusen
Wynfyd ar y byd o'i ben.
Oi, Oi fydd yr oroian;
Natur, o gylch, un tro gân;
Brau ddwsmel beraidd, esmwyth,
Rhyw bibell aur i bob llwyth.

Drwy bau deg cred, a'r byd crwn,—ei llwybrau,
Ar heirdd orlennau'r hir ddarluniwn;
Diwedd ei hawdl, y dydd hwn,—mewn saffir,
Ag aur o Ophir, a argraffwn.


Nodiadau

[golygu]