Gwaith Dewi Wyn/Torri Sylfaen Morglawdd Madog
Gwedd
← Englynion Pont Menai | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Oes Dyn ac Angau → |
TORRI SYLFAEN MORGLAWDD MADOG.
Breuddwyd gŵr llwyd oedd gar llaw.
NID hawdd gwneyd Môrglawdd mawrglod,—Duw unwaith
Ordeiniodd y tywod;
Hwn sydd, ac a fydd i fod,
Yn derfyn llanw di-orfod.
Mwy perwyl na champwri,—a gorchest,
Fydd gwarchae y weilgi;
Nid gwal a all atal lli
Y môr dwfn, mae rhaid ofni.
Daw dydd ysmaldod y donn,—dychwelyd,
A chwalu gwaith dynion,
I fwrw ei hallt lafoerion
Fel y gwnaeth yn Malldraeth Mon.
Er gwyr call, diball dybiau,—er cawri,
A'u cywrain fwriadau;
Llifiaint, er cymaint yw'r cau,
Dŵr a fynn ei derfynau.