Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf I/Marwnad Elin

Oddi ar Wicidestun
Marw Elin Gwaith Goronwy Owen Cyf I

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards

MARWNAD ELIN, UNIG FERCH Y BARDD

MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'r hyd f' wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon.

ANWYLYD, oleubryd lân,
Angyles gynnes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw ser, ni thâl son!
Oedd fwyn 'llais, addfain ei llun,
Afieuthus, groesawus swn
I'w thad, ys ymddifad ddyn!
Ymddifad ei thad, a thwn
Archoll yn ei friwdoll fron,
Yn nghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.

ER pan gollais feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganiad awrddwl
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf, poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth yw y galon
Erddi, ac am dani 'n don,
A saeth yw son,
Eneth union,
Am anwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil gannaid ddwylaw gwynion.

YN iach, f' enaid hoenwych fanon,
Neli, 'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach, lon!—f angyles,
Gorffwys ym mynwes monwent Walton,

NES hwnt dygynnull y saint gwynion.
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo 'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cai, f' enaid, deg euraid goron-dithau,
A lle yn ngolau llu angylion.


MAENT yn fy nghyngori i adael y wraig gyda rhai o'i cheraint tros bum wythnos neu chwech, hyd oni sefydlwyf; mae hithau 'n naghau mynd at ei mam, ac yn dewis mynd i Sir Fon neu i rywle at rai o'm ceraint i; ond nid oes gennyf i ym Mon ddim ceraint a dâl faw; ac felly rhaid i mi ei chymeryd gyda mi, heb y gwaethaf imi, Gwyn ei fyd a fedrai feddwl am ryw le yn Nghymru lle gallwn ei gadael tros fis trwy dalu. Er mwyn Duw gyrrwch yma yn union, gynted ag y caffoch hwn, heb golli un post.

Ydwyf yr eiddoch,

GORONWY DDU.


DIWEDD CYFROL I.

Nodiadau

[golygu]