Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Cywydd i Ddiafol

Oddi ar Wicidestun
Dig Lewis Morris Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd y Cyw Arglwydd

CYWYDD I DDIAFOL

DIAFOL, arglwydd dufwg,
Ti du ei drem, tad y drwg,
Hen Suddas, atgas utgi,
Gelyn enaid dyn wyt ti.
Nid adwaen—yspryd ydwyt—
Dy lun, namyn mai diawl wyt;
Od wyt hyll, ys erchyll son
Am danat y mae dynion,
A lluniaw erchyll wyneb,
A chyrn it' na charai neb;
Yn nghyrrau 'th siol anghywraint
Clustiau mul—clywaist eu maint;
Ac aeg fel camog olwyn;
Hychaidd, anfedrusaidd drwyn;
A'th dduryn oedd, waith arall,
Fal trwyn yr âb, fab y fall;
A sgyflfant rheibus gweflfawr,
Llawn dannedd og miniog mawr;

Camog o ên fel cimwch;
Barf a gait fel ped fait fwch;
A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd,
Crefyll cyd ag esgyll gwydd;
Palfau 'n gigweiniau gwynias
Deng ewin ry gethin gas;
A'th rumen, anferth rwmwth,
Fal cetog was rhefrog rhwth.
Wfft mor gethin y din dau!
Ffei o lun y ffolennau!
Pedrain arth—pydru a wnel—
A chynffon fwbach henffel;
Llosgwrn o'th ol yn llusgo,
Rhwng dy ddau swrn llosgwrn o;
A gwrthrych, tinffyrch tanffagl
Ceimion, wrth dy gynffon gagl,
A charnau 'n lle sodlau sydd,
Gidwm, is law d' egwydydd,
Er na nodawdd, o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf.
Dyna 'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw, leuawg liw.
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun;
Diawl wyt os cywir dy lun.

Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd:
Gwir ydyw rhai a gredynt
Yt' ddwrdio Angelo gynt;
Sorri am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd Annwn,
A thyrchu fyth o'r achos
Hyn a wnai 'n nydd yn y nos,
Nes gwneuthur parch, wrth d' arch di,
Satan, a llun tlws iti.


Minnau, poed fel y mynnych.
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it' gyngor rhagorawl,
Na ddyd nemawr un i ddiawl.
Gŵr y sy, gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy 'th gennad,
Yna rhuthr, onide, 'n rhad;
Canys hyn a fyn fo,
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gŵr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost?
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw.
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog ryw faint o'i gastiau.

Dyn yw ond heb un dawn iach,
Herwr ni bu ddihirach;
Gŵr o gynneddf anneddfawl;
Lledfegyn rhwng dyn a diawl:
Rhuo gan wŷn, rhegi wna,
A damio 'r holl fyd yma;
Dylaith i bawb lle delo.
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na diawl;
Cofier nad oes neb cyfuwch;
Nid oes radd nad yw SYR uwch.

Marchog oedd ef, merchyg ddiawl,
Gorddwy, nid marchog urddawl.

Marchog gormail, cribddail, cred,
Marchog y gwŷr a'r merched.
Nis dorai, was diarab,
Na chrefydd, na ffydd, na Phab.
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas;
A'i oreudduw oedd ruddaur
A'i enaid oedd dyrnaid aur;
A'i fwnai yw nef, wiwnod;
A'i Grist yw ei gist a'i god;
A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloywaur glud;
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad ddegwm yn hon:
A'i brif bechod yw tlodi—
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi—
A'i burdan ym mhob ardal,
Y'w gwario mwn ac aur mâl,
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân gloywlan, glwys.
Dyna yt, Suddas dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gŵr;
Rhyw swrn o'r rhai sydd arnaw,
Nid cyfan na 'i draian draw.
Os fy nghyngor a ddori,
Gyr yn ol y gŵr i ni.
Nid oes modd it' ei oddef;
Am hyn na 'mganlyn ag ef.
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll
Ddiawl gennyt a ddeil ganwyll.
Yna os daw, nos a dydd,
Gwelwch bob drwg bwygilydd;
Diflin yw, o chaid aflwydd,
I drin ei gysefin swydd;

Gyr byth â phob gair o'i ben
Dripharth o'th ddieifl bendraphen.
Ac od oes yna gwd aur,
Mål annwn er melynaur.
O gwr ffwrn dal graff arnaw—
Trwyadl oedd troad ei law—
A'r lle dêl gochel ei gern,
Cau ystwffwl gist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d' orddrws,
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiawl un diawl ond ef.

A glywch chwithau 'r gŵr bonheddig? Yr ych yn cwyno i'r peswch ac yn dwrdio myned i ryw le i'r wlad i roi tro. Pa waeth ynteu fyddai ichwi yma na lle arall? Chwi gaech groeso calon i'r peth sydd yma, a diolch mawr am eich cymdeithas. Chwi gaech wely rhwydd esmwyth a dillad glân tymhoraidd, ond heb ddim curtains; a chwi ellech wneyd eich ystafell cyn dywylled a'r fagddu, os mynnech. Chwi gaech ymbell foliad o bastau colomenod ar droau, ac ymgomio gyda'r Doctor weithiau, os gwelwch yn dda. A chymerwch hyn yn lle gwahawdd, neu beidiwch.

Dyma'r llythyr y talasoch am dano wyth geiniog wedi ei gael. Mae'n dyfod oddiwrth Robert Owen, gŵr fy modryb Agnes Gronow, ac yn rhoi hanes o ryw heldrin rhwng Procatorion Llanfair a fy ewythr Robert Gronow, yn ngylch yr hen dŷ lle ganed fy nhad, a'm taid, a'm hendaid, a'm gorhendaid, etc.; a phed fawn yno, myfi a rown ben ar yr ymryson, oblegid fi y piau 'r ty, a'r gerddi, ac oll sy 'n perthyn iddo, er

"Dyma'th bortreiad anwiw."


na waeth gennyf mo'r llawer pe cai'r cigfrain ef; ond gwell fyddai gennyf i rai o'm gwaed ei gael nag estron genedl, yn enwedig y Deinioels ffeilsion. Ond yw ddigon i'r Panningtons fod wedi llygru 'n cenedl trwy ymgymharu ac ymgyfathrachu â phob cainc agos o honi? a fynnent fwrw'r unig gyw digymysg, diledryw, tros y nyth? Mi fynnaf weled hynny, ac a fynnaf wybod beth. a dalo fy hawl i'r lle, ped fai ond cut mochyn. Nid rhaid ond rhoi 'r peth yn llwyr, yn gywir, ac yn eglur, o flaen y Dr. Nicolls, ac fe geir ateb yn rhad o'r Deml gan wŷr a ŵyr bob cruglyn o'r gyfraith. Ni fu erioed osod nag ernes ar y lle yn amser tad na thaid neb sy 'n fyw heddyw, na thaledigaeth am dano, onid pedwar swllt a chwe cheiniog i Eglwys Llanfair bob blwyddyn; ac fe dâl y lle deirpunt, o'r lleiaf, yn ol y prisiau sydd yn Môn. Pwy piau bob commons yn Môn? Nid yr Eglwys mae'n debyg. Wele, hai! dyma lythyr oddi wrth y brawd Owen ap Owen o Groes Oswallt, yn dywedyd farw fy mam yng nghyfraith. Mi gaf y grasbib yn dyhuddo'r wraig Elin am ei mam. Bellach fe geir gweled a gywirodd fy hen chwegr ei geiriau. Hi fyddai'n addaw y caid ryw rombreth o bethau pan fyddai hi farw; ond yr wyf yn tybio nad oedd yn ei bryd y pryd hynny farw byth. Mae ystad y Brithdir yng Nglyn Ceiriog a addawodd i Robyn? Dyna ichwi gymmaint o newydd a marw gwrach, ond nid wyf fi yn disgwyl cymaint a grôt oddi wrthi.

Nodiadau

[golygu]