Gwaith Gwilym Hiraethog/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Gwilym Hiraethog Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad


Rhagymadrodd

GANWYD William Rees (Gwilym Hiraethog) Tach, 8, 1802, yn Chwibren, amaethdy ger glan afon Aled, tua dwy filldir o bentref Llansannan. Yr oedd ei dad, Dafydd Rees, y Chwibren, yn ŵr o deimladau dwys a thyner ; yr oedd ei fam, gynt Ann Williams, Cefn y Fforest, gerllaw, yn ddiysgog a hyderus. Ceir nodweddion y ddau, tynerwch y naill a chryfder y llall, yn y mab hynaf, Henry Rees, y pregethwr seraffaidd, ac yn y mab ieuangaf, Gwilym Hiraethog aml ei ddoniau. Bro Tudur Aled a Gruffydd Hiraethog a Siôn Tudur a William Salisbury, a llawer llenor arall, yw'r fro; ac yr oedd yr awen yn aros ynddi. Cafodd mab y ffarmwr athrawon a llyfrau. Yn athrawon cafodd fab i Edward Jones, Maes y Plwm, a Robert ap Dafydd o'r Gilfach Lwyd; yn llyfrau cafodd ychydig o gyfrolau meddylgar. Pan yn llanc dechreuodd brydyddu. Tra'n gwthio ffridd,—gwaith caled, ond gweithiwr caled oedd Gwilym Hiraethog—gwnaeth gywydd ar frwydr Trafalgar at Eisteddfod Aberhonddu yn 1826. Cafodd y wobr, a daeth yn hawdd ac esmwyth i fysg llenorion goreu Cymru. Yr oedd yn gawraidd ei feddwl, ond yn ostyngedig fel plentyn; gŵr distaw oedd, ond dangosai ei wên serchog fod yr enaid yn llawn cydymdeimlad.

Ymbriododd yn ieuanc ag Ann Edwards, Waun, Nantglyn, yr hon a fu yn gymorth i'w wneyd "yn ddedwydd yn ei dylwyth, yn llwyddiannus yn ei weinidogaeth, ac yn anwyl gan ei holl frodyr." Oherwydd ei medr a'i darbodaeth hi y gwelodd Gwilym Hiraethog lwybr iddo adael Llansannan, i ymroddi i bregethu yr efengyl. Yr oedd wedi teimlo'n ddwys dan ddylanwad cewri'r pulpud yn yr adeg honno, a Williams o'r Wern oedd ei hoff bregethwr. Dechreuodd ei waith crefyddol fel athraw plant yr Ysgol Sul; pan ddechreuodd bregethu, cafodd glust y wlad ar unwaith oherwydd poblogrwydd ei frawd hynaf, ac yna oherwydd amrywiaeth swyn ei genadwri ei hun, mewn pregeth neu ddarlith. Yn 1828 cafodd y wobr gyntaf am gywydd ar "Gantre'r Gwaelod", ac ail wobr am gywydd ar " Ymdrech Buddug," yn Eisteddfod Dinbych. Ymhen dwy neu dair blynedd wedyn gadawodd ef a'i wraig a'i dri phlentyn Lansannan, ac aeth i Fostyn yn weinidog. Pan urddwyd ef, yn Ebrill 1832, yr oedd yno yn y cyfarfod, ymysg ereill, Williams o'r Wern, a Michael Jones o'r Bala, a Henry Rees. Tra ym Mostyn ymroddodd bron yn hollol i'w waith ac ychydig ganodd. Y mae Cwymp Babilon yn dangos, nodwedd ei feddwl yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1837 symudodd i Ddinbych, Yno daeth i gyflawnder nerth—yn dywysog ymysg pregethwyr, yn flaenor gyda phob achos da. Gwnaeth waith amhrisiadwy dros lenyddiaeth Cymru, yn enwedig trwy ddeffro meddyliau pobl ieuainc. Nid oedd ei ysgrifbin yn llonydd ychwaith; ymysg cyfrolau ereill, cyhoeddodd draethawd "Crefydd Naturiol a Datguddiedig", a "Chofiant Williams y Wern". Ym Mai 1843, symudodd i Lerpwl. Yno ymgymerodd â thasg gynhigiasid gan ŵyr grymus cynt; ond ni fuasai llwyddiant hyd yn hyn. Pan gyhoeddwyd rhifyn cyntaf Yr Amserau, Awst 23, 1843, dan olygiaeth Gwilym Hiraethog, teimlodd pawb fod gwerin Cymru o'r diwedd wedi cael llais. Ond trwy ymdrech galed y bu'r Amserau byw yr oedd ei gyhoeddwr gwladgarol yn colli arian arno, ac yr oedd y golygydd yn rhoi iddo "ffrwyth yr oriau a latratesid oddiar gwsg y nos." Pan oedd goleu'r Amserau ar ddiffodd, dechreuodd "Llythyrau'r Hen Ffarmwr ymddangos ynddo; ac o hynny allan ni fu Cymru'n foddlon ar fod heb bapur newydd. A thrwy'r dyddiau cythryblus,—dyddiau Mazzini a Garibaldi a Kossuth, chwyldroadau'r Cyfandir, a diddymiad treth yr ŷd, a deffroad gwerin Cymru, bu'r Amserau yn oleuni ac yn arweiniad. A daeth Gwilym Hiraethog trwy'r wlad fel darlithydd, yn ei rym ysgubol; dangosodd i'w bobl ogoniant emynau Pant y Celyn, rhyfeddodau natur, a'r egwyddorion mawrion oedd yn dymchwelyd gorseddau Ewrob yn chwyldroadau 1848.

Felly, weithiau dan heulwen ac weithiau dan gwmwl, tyfodd yn allu. Yr oedd ei bresenoldeb fel presenoldeb llu. Cymylau duaf ei fywyd oedd colli ei ferch ym Mostyn, a mab yn Lerpwl, a gwraig, a dwy ferch "bron ar derfyn eitha'r daith." Ac efe'n fab pedwar ugeinmlwydd, dechreuodd ei gorff hardd a chadarn adfeilio. A phan roddwyd ef i huno yn Lerpwl, Tachwedd 3ydd, 1883, teimlodd Cymru ei bod wedi colli gwasanaeth un o'i chymwynaswyr pennaf.

Feallai fod ereill wedi rhagori ar Wilym Hiraethog mewn cyfeiriadau neillduol,—yr oedd Henry Rees yn bregethwr mwy, ac Eben Fardd yn fardd mwy, ond gellir dweyd mai efe yw'r mwyaf amryddawn o holl ŵyr mawr Cymru. Y pulpud, yr areithfa, y cylchgrawn, y papur newydd, y nofel, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth Cymru,—ni fuasai yr un o honynt y peth ydynt heddyw onibai am Hiraethog. Cyhoeddwyd cofiant iddo, dan olygiaeth Scorpion a Dewi Ogwen, gan Mr. Hughes, Dolgellau, yn 1893. Y mae ei weithiau ymhob ffurf,—mewn cyfnodolion a newyddiaduron, ac mewn cyfrolau niferus, wedi eu cyhoeddi mewn amrywiol leoedd, ond yn bennaf yn swyddfa Mr. Gee, yn Ninbych. Yn y swyddfa honno, a fu ac y sydd yn gymaint bendith i Gymru, y cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r hyn sydd yn y gyfrol hon.

OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Mehefin 21, 1911.