Gwaith Gwilym Marles/Anadliadau

Oddi ar Wicidestun
Duw sydd Noddfa Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Melus


ANADLIADAU

.

TI, gysgod prudd sy dros fy mywyd,
A ei ddim ffwrdd?
Wyt gwmwl ar fy mhur ddyhewyd,
Er doist i'm cwrdd;
Wy'n cofio'r pryd pan oedd fy nyddiau
Fel ffynnon iach,
Neu'r deigryn gloew ar deg ruddiau
Y baban bach.

Oes raid i fywyd ymddirywio
Wrth fynd yn hen,
Yn lle pob gras yn per adfywio
Ar nefol wên?
A yw atdyniad fyth i waered,
Nid weithiau i'r lan?
A ddaw i druan ddim ymwared,
Lle byddo wan?

Chwi deg a chu angylion bywyd
Rhowch help eich llaw
I rywun ddringo'r rhiwiau enbyd,
Sy glaf o fraw;
O dan y llong sydd ar ymddryllio
Ar arw draeth,
Rhyw donnig, crewch, a'i symudo
I'r cefnfor maith.

Mae adgof bell o ryw baradwys
Ym mron pob da,
Ei wyneb 'nol ni phaid a gorffwys
Nes dychwel wna;

Geriwbiaid, gweiniwch eich cleddyfau,
Gwnewch osgordd lu,
I gael y mab afradlon adrau,
Yn grwydryn fu.
 
Chwi aruthr dynghedfennau bywyd,
Beth ydych? Pwy?
Oddiwrth eich ffrewyll pwy a'n gweryd?
Oes Rhywun mwy?
A oes dim Tad, a'i enw anwyl
Yn uwch na chwi ?
A chu ddyfodiad idd ei breswyl
I wael fel fi?

Ni roddaf fyny, er fy ofnau,
Yn iawn mae'r oll,
Yr hyn sy gam a gwyd o'n drygau
Ac aiff ar goll;
Fel tarth y bore a ddyspyddir
Gan wres y nawn,
Ein beiau oll, O, fe'u ceryddir,
I rinwedd llawn.


Nodiadau[golygu]