Gwaith Gwilym Marles/Dro yn Ol

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yn Iach


CARTREFI SIR ABERTEIFI

"Mae'r hen aneddau acw'n gorffwys.
Yn dawel, dawel yn y fro."

GWILYM MARLES

DRO YN OL

MAE'R hen aneddau acw'n gorffwys,
Yn dawel, dawel yn y fro,
Y tewfrig goed yn gylch am danynt,
A haul y nawn yn euro'u to;
Y coed hynafol! acw safant,
Yn dystion byw o'r amser fu,
Tra'r dwylaw tyner a'u planasant
Yn llwch yn awr mewn daear ddu.

Mae gwyrdd y pinwydd draw can ddyfned,
A chefn y mynydd draw mor grwn,
Un wedd y llifa dyfroedd croewon
Y ffynnon fach ym mlaen y cwm,
A chynt, pan yn eu gwydd mwynhawn
Freuddwydion mebyd hyfryd wedd
Mae natur fyth yn para'n ieuanc,
Tra oes yn dilyn oes i'r bedd.

O, hen aelwydydd anghofiedig,
Lle treuliwyd llawer hwyr brydnawn,
Pob un a'i stori bêr a'i orchwyl
Wrth siriol dâu o goed a mawn;
Oedd yno'r patriarch yn ei gader,
Yn frenin ar ei deyrnas fach,
A meibion hoew, merched hawddgar,
Ac oll mor ddifyr ac mor iach.

Y tegaidd wrid oedd ar dy ruddiau
Sydd wedi cilio, rian fwyn;
A wyt ti'n cofio gwrando'r gwcw
Yng nghwmni rhywun ar y twyn?
A hela syfi yn y gelltydd,
A blodau o glawdd i glawdd ynghyd?
Ah! gwelaf bellach y'm hadweini,—
P'odd buost, dwed, ys talwm byd?

"Mae f anwyl dad,"—mi wn yr hanes,
Rwy'n cofio ei weld yr olaf dro;
Mae'th fachgen tlws yn ddelw ei ddwyrudd,
Tra hwnnw'n fyw nid aiff o go,
Ond trist cael allan wrth fynd heibio
I lawer annedd, fod yn awr
Y llais cariadus wedi tewi,
Y galon gynnes yn y llawr.

Mae llu o fyfyrdodau bore
Yn rhuthro'n dyrfa i fy mron,
Mae'r niwloedd pell yn cilio ymaith,
Diflannodd ugain mlynedd gron;
Drwy'r cof mi welaf diroedd mebyd,
Rhyw harddwch tego ar allt a dôl,
Ond pe cawn fyw am fil a rhagor,
Ni ddoi'r teimladau gynt yn ol.

Chwi fechgyn glân a merched siriol,
Hoff blant i rai na welir mwy;
Mawrhewch aur—dymor mebyd iraidd,
Dilynwch eu rhinweddau hwy;
Hyd lannau'r hen afonydd anwyl,
Ac ar y bryniau iach a chlir,
Boed bur a melus eich cymdeithas,
Gan garu Duw a pharchu'r gwir.