Gwaith Gwilym Marles/Emyn

Oddi ar Wicidestun
Ant o nerth i nerth Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Pob peth yn ei fan


EMYN.

AR daith byd, ai byr ai hir,
Duw, boed dy wir i'm tywys;
Fy nef ddaearol ar bob cam
Fo meddwl am dy 'wyllys.

Cartrefed yn fy nghalon barch
At bob rhyw arch o'th eiddo;
Y drwg mor barod i mi sydd,
Dysg fi bob dydd i'w ado.

Fy nhraed cyfeiria Di yn rhwydd
Hyd ffordd dyledswydd danbaid:
Gwrandawaf fyth dy dirion lais
Ag eithaf cais fy enaid.

Rho i'm ymochel rhag pob drwg,
Ai cudd ai amlwg fyddo;
A diosg bob rhyw drachwant ffol
O'th hedd yn ol a'm cadwo.

Y melus brawf o'r nefol wledd
Sy'n dy dangnefedd perffaith,
Boed im, O Dad, o'th rad dy hun,
Trwy rodio'n un a'th gyfraith.

Am lewyrch per dy gariad maith
Ar daith y byd presennol. I ti,
O Dduw pob byw a bod,
I ti boed clod tragwyddol.


Nodiadau[golygu]