Gwaith Gwilym Marles/Ffarwel Golygydd

Oddi ar Wicidestun
Pob peth yn ei fan Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Brawd a Aned


YR ATHRAW

FFARWEL GOLYGYDD.

At ein Darllenwyr.

TRO hwn y mae gennym air atoch, ddosparthwyr a derbynwyr caredig. Mae wedi bod yn ein bryd i'w ddweyd o'r blaen, ond cyhyd ag y medrem, peidiem. Eithr nid eiddo gwr ei ffordd. Pan ddaethom i'r penderfyniad o ddwyn allan gyhoeddiad bychan i'r ieuainc, aeddfedasem y cynllun ar draethoedd heulog ac yn sŵn tonnau soniarus y Cardigan Bay, ychydig wedi canol haf 1865, yn nedwydd gwmni un nad yw yn rhodio yma mwy. Fel yr elai y flwyddyn ddiweddaf rhagddi, ar ei mynwes fe gasglai cwmwl du, yr hwn a barhai o hyd i fyned yn fwy bygythiol, a'r hwn o'r diwedd a dorrodd ar ein pen yn nechreu y flwyddyn bresennol.[1] Cwmwl arall a gododd drachefn o'r un parth o'r wybren, ac ym mis Mawrth oer a chawodog torri a wnaeth hwn hefyd.[2] Croes iawn hyn oll i gynlluniau a dymuniadau ein calonnau hiraethus ni, eto cadarn yw ein crediniaeth mai tadol gariad perffaith oedd yma yn gweithredu. Teimlem unwaith fod angenrhaid arnom i roi y cwbl i fyny y pryd hwnnw; wedi hynny penderfynasom ei hymladd hi yn mlaen hyd ben tymor, ac felly y bu. Eithr y mae doethineb bellach yn ein rhybuddio mai gwell fyddai i ni ar hyn o bryd ymneillduo o ofal yr Athraw. Ond wrth wneyd hyn dymunem ddychwelyd ein diolchgarwch am y gefnogaeth wresog a gawsom, a'r ffyddlondeb, y tu hwnt i'n disgwyliadau, a brofwyd gennym ar law y cyhoedd darllengar, ar law dosparthwyr hunanymwadol, a rhyw ychydig o gynorthwywyr galluog. Mae dadgan hyn yn ddyled arnom yn gystal ag yn bleser i ni, rhag i neb dybied fod yr Athraw yn cael ei roddi heibio o ddiffyg cefnogaeth: nid felly yn wir. Nid oedd ein cylchrediad mor helaeth ag y buasai ddymunol, ond y mae yn awr ar y diwedd agos i gant yn fwy nag a broffwydai ein cyfeillion brwtaf y byddai iddo ei gyrraedd hyd yn nod wrth gychwyn. Mae yn aros eto i'w benderfynu pa beth a drefnir gan ein cyfeillion tuag at ddwyn allan ryw gyfrwng o'r fath, ond helaethach, yn debyg, a digon sicr llawer galluocach na'r Athraw, ar ol i'r olaf encilio o'r maes. Ond hyn a ddywedwn, megys nad oedd gennym ni wrth gychwyn yr Athraw y bwriad lleiafi orfaelio maes na niweidio anturiaeth neb; felly yn awr bydd yn falchder ac yn bleser gyda ni i wneyd ein rhan tuag at hwylysu dygiad allan unrhyw gyhoeddiad a gychwyno ar sail eang ein Crist'nogaeth rydd. Hyn sydd ddilys, fod galwadau ac anghenion, ac, yn wir, naws ac archwaeth yr oes hon y fath, fel na ddylai mis basio heb i ryw gyhoeddiad o'r ddelw a'r argraff yna wneyd ei ymddangosiad. Nid yw y ffaith fod cyhoeddiadau enwadau eraill yn dyfod, rai o honynt yn enwedig, yn rhyddach ryddach, yn un rheswm i ni dros dynnu ein dwylaw yn ol, eithr yn rheswm yn hytrach paham y dylem ymroi ati, rhag bod i ni, y rhai a broffeswn gymaint o ymlyniad wrth ryddid a rhydd—ymofyniad ein cael, o'n gosod yn y clorianau, yn brinach yn hyn. nag enwadau eraill, yr arferwn siarad am danynt fel gwrthrychau i dosturio wrthynt, oherwydd fod maen melin credoau yn g'lymedig am eu gyddfau.

Cyn terfynu, nis gallwn beidio a chrybwyll ein rhwymau neillduol i un o'n cynorthwywyr, y Parch. R. J. Jones, Hen Dŷ Cwrdd, Aberdar, am ei help ffyddlawn i ni ar lawer dull o'r dechreuad. Hebddo ef, buasai ein dwylaw wedi llaesu er ys tro hir. Mae eraill yn perthyn i'r un dosparth, ond buasai yn fai ynnom i beidio â'i nodi ef, er y gwyddom nad yw ef o bawb yn un a garai i'r cyhoedd wybod am ei rinweddau.

Ac yn awr, gyfeillion serchog, un ac oll, derbyniwch ein hysbysiad hwn y bydd i'r Athraw ar ben ei ail flwyddyn, sef gyda'r rhifyn nesaf, gael ei roi i fyny mor bell ag y mae a fynnom ni âg ef. Mae yn ddrwg gennym orfod dweyd hyn, ond nis gallwn oddiwrtho. Rhad Duw arnoch oll.

Y GOLYGYDD.

Llandyssul, Mehefin 15, 1867.

Nodiadau[golygu]

  1. Nodyn olaf yr Athraw, rhifyn Ionawr, 1867, sydd fel hyn: Ar y 4ydd o'r mis hwn, yn 37, oed, Mary, anwyl briod Golygydd yr Athraw, gan adael tair merch, a mab, ac yntau, i ddwys alaru eu colled anadferadwy."
  2. MARW GOFION.—Mawrth 12fed, yn naw mis oed, ac ym mhen tua deufis ar ol ei mam, Minnie, plentyn ieuangaf Golygydd yr Athraw. Claddwyd hi wrth gapel y Llwyn ym medd ei mam. Dydd ei hangladd (y 14eg) darllenodd a gweddiodd y Parch. Evan Morgan, Ficer Llandyssul, yn y ty; yn y Llwyn dechreuwyd gan y Parch. John Davies, a phregethwyd gan y Parch. D. Evans, B.A.. ar 1 Pedr 1. 24, 25; a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch. W. Thomas,