Ac eto treulia'r don y graig ei hun,
Wrth ddiflin guro arni nos a dydd;
Am Alwyddyn pery'r graig o'r braidd yr un,
Ond argraff canrif arni'n amlwg fydd;
Un wedd y proffwyd a'i olynwyr clau
A lwyddant pan yn dyfal ymbarhau.
Ond O, 'r amynedd dawel ŵyr pa fodd,
Trwy'r ddunos hir, i lynu wrth ei gwaith!
Mae'n drysor yn y fynwes, dwyfol rodd
I'w meithrin gyda serch a gofal maith;
Tra'n mreichiau cwsg ynghlo y dyrfa fawr,
Hwnt llawer uchel drum hi wel y wawr.
Fel anwyl blentyn fyddai'n hwylio i daith
O bellter daear tua i gartref clyd,
Heb weld ei dad na'i fam am dymor maith,—
Mae'r llong yn araf, O pa hyd? pa hyd?
Mewn hoff freuddwydion gwel ei fam a'i dad
Yn llamu i'w gofleidio mewn boddhad;
Dymuniad tebyg, yn rhinweddol ias,
Sy'n mron yr hwn a fyn leshad ei hil;
Mynyddog donnau hunanoldeb cas
Ef nis dychrynnant, er eu bod yn fil;
Rhyw dirion Raid, fel tragywyddol ddeddf,
A weithia ynddo yn arhosol reddf.
"Ddiwygiwr ieuanc, iti Duw yn rhwydd,'
Medd un sy'n gwybod am y tywydd blin,
"Yn ol dy lafur gonest bydd dy lwydd,
A chysgod gai ar adeg tostaf hin;
Ond Ffydd, am ddewrach Ffydd, dy weddi boed,
A'r olaf elyn sethri dan dy droed.'