Gwaith Gwilym Marles/Ochenaid

Oddi ar Wicidestun
Y Ceiliog Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Duw sydd Noddfa


Y CEILIOG.[1]

Yn ol dull Heinrich Heine.

GEILIOGOD y fro ni ddeffroant
I gyhoeddi y wawr yr un funud;
Ond doeth dduwinyddion ymroant
Gael dynion i gredu'r un ffunud.

Yn nyfnder nos, pan gwyd meddyliau
Am bethau wedi bod;
Yn nyfnder nos, pan ddaw syniadau
Am bethau eto i ddod;
Pan dew y gwyll yn yr ystafell unig,
A'r hun mor fyrr,
Iach lais y ceiliog ar y caddug
Mor felus dyr.

Pwy roes y reddf yn yr aderyn
I eilio cân?
I ddeffro cyn bod neb yn gofyn,
Mor hardd ei rân?
Undonawl, eto fyth mae croesaw
I salm y wawr,
A balch yw yntau ar yr alaw,
Sy hen yn awr.

drefn sydd yn y cor plygeiniol?
I arwain, pwy?
A yw'r eiddigedd yno'n rheol,
Sy bla pob plwy?
Yn hytrach, yw pob gwych aderyn
Ryw ennyd lwys

Ddim yn ymollwng i'w bêr englyn
Heb boen na phwys?

Mae adar ereill fyth yn canu
Yng ngoleu'r dydd;
Ond ti, pan mae y byd yn fagddu,
Yn canu sydd ;
Y tlawd fyfyriwr yn ei 'stafell
Sy hoff o'th si;
Ond un apostol, heb ei gymell,
Ni'th grybwyll di.

Pa frenin ydwyt yn y bore,
Ar uchel glwyd!
A llawer teyrn fel ti fu'n chwareu
'N y bore llwyd;
Ond ymaith ciliodd y mawreddau
Ar adeg nawn,
A distaw gyfaill ydwyt tithau
'N y goleu llawn.

Ond O, mae 'nghalon yn dy garu,
Wyt rydd o dwyll ;
A phan y bore wyt yn canu,
Diddeni 'mhwyll ;
Ac yn y nos sy hirfaith,
Dy sain sy bêr ;
Pan oeddwn ar fy mordaith
Fy ngheiliog oedd y ser.


Nodiadau[golygu]

  1. Dyma un o'r darnau cyntaf anfonodd i Islwyn pan oedd yn olygydd y golofn Gymreig yn y South Wales Weekly News.