Gwaith Gwilym Marles/Parch. J. E. Jones

Oddi ar Wicidestun
In Memoriam Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Annerch Cyfaill


Y PARCH. JOHN EDWARD JONES.

Ebrill 1866.

YN esmwyth a diboen aeth y gwr da hwn i'w hir orffwysfa, dydd Sabbath, Chwefror 25. Dechreuasai ei iechyd ddadfeilio er ys tua dwy flynedd, ac ymneillduasai o ofalon ei swydd er ys tuag wyth mis. Darfu i'w farwolaeth, er nad yn annisgwyliadwy, daenu galar trwy gylch helaeth o gyfeillion a chydnabod.

Ganwyd ef yng Nghaerfyrddin, Gorffennaf 7, 1801. Pan y blentyn, amlygai dalent neillduol i ddysgu, ac yn dra ieuanc, aeth i Ysgol Rammadegol, ag oedd y pryd hwnnw, ac am gryn amser wedi hynny, mewn cysylltiad â'r Coleg Presbyteraidd yn y dref, yr hon a gedwid gan y Parch. David Peter, prifathraw y Coleg. Oddi-yno. pan yn un ar bymtheg mlwydd oed, derbyniwyd ef i'r Coleg. Y pryd hwn Trindodwr oedd o ran ei olygiadau. Yr oedd ei dad yn henadur neu ddiacon yn eglwys Heol Awst. Heb fod yn hir ar ol ei fynediad i'r Coleg, aeth ei olygiadau duwinyddol o dan gyfnewidiad, a chyn. fod ei amser ar ben yr oedd yn Undodwr proffesedig. Buasai ei berthynasau ar du ei fam, yr hon oedd wraig ddeallus iawn, ac a fu fyw i oedran teg, erioed â'u gogwyddiad at Ariaeth—cred a goleddid gan ddosparth lluosog yn hen eglwys barchus Heol Awst yr adeg honno, ac am lawer o flynyddoedd yn flaenorol. Yn ffodus, teyrnasai y fath synwyr a theimlad da yn ei artref, fel na ddarfu i'r cyfnewidiad hwn effeithio dim ar ddedwyddwch y teulu. Y Parch. D. Lewis Jones, o Glunadda, Undodwr trwyadl, oedd yr ail athraw yn y Coleg yr amser hwn. Wedi treulio pedair blynedd fel myfyriwr yn y Coleg, ymsefydlodd ym Mhenybont ar Ogwr, i gymeryd gofal yr eglwys yn y dref honno, ynghyd â'r eglwys yn y Bettws, lle ryw bum milldir oddiyno. Dymuniad y Dr. Abraham Rees, yr hwn a gymerasai ddyddordeb neillduol ynddo fel myfyriwr, oedd iddo fyned i Wrexham, lle y pryd hwnnw yr oedd hen gynulleidfa Bresbyteraidd. Nid oedd ond prin un-ar-hugain oed pan ddechreuodd ar ei weinidogaeth. Yn Saesneg, yn bennaf, y pregethai ym Mhen y Bont, ac yn Gymraeg yn wastad yn y Bettws. Ymddengys iddo agor ysgol yn y dref tua'r un amser, yr hon a ddygodd ym mlaen am dros ugain mlynedd, hyd nes iddo ymuno mewn priodas â Miss Jenkins o'r dref honno.

Ac ysgol odidog a fu ganddo. Yr oedd yn feddiannol ar ddawn helaeth fel ysgol—feistr, fel y tystia llawer o'i hen ysgolheigion heddyw yn fyw. Yr oedd ei ddull mor bwyllog a thirion, dodai ei feddwl allan mor glir a phwrpasol, a chariai ym mlaen ddisgyblaeth mor dyner, eto manwl, fel ag y deallwn iddo fod yn llwyddiannus iawn fel addysgydd, a theilwng o gael ei restru gydag athrawon goreu y dywysogaeth. Arferai tua'r amser hwn draddodi darlithiau chwarterol ar seryddiaeth, gyda chymhorth y Magic Lantern, yr hyn oedd beth newydd yn ein gwlad y pryd hwnnw. Nid oedd dim a dueddai i wella a diwyllio pobl ieuainc y dref a'r gymydogaeth nad oedd ef gyda'r blaenaf yn ei bleidio. Pan ddaeth y sôn am y Mechanics' Institutes, o gychwyniad Dr. Berkbeck ac Arglwydd Brougham, gyntaf i'r wlad, cymerodd ddyddordeb mawr ynddynt, a bu yn foddion i sefydlu un yn ei dref ei hun, gyda'r hon y parhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, ac i'r hon yr oedd yn is—lywydd ar adeg ei farwolaeth. Cofiwn yn dda anerchiad bywiog o'i eiddo i'r myfyrwyr yng Nghaerfyrddin, ar ddiwedd yr arholiad yn 1853; cofiwn pan yr anogai ni i lafurio am wybodaeth gyffredinol fel ag i gadw ym mlaen gydag oes y Mechanics' Institutes, ac i fod yn alluogi luosogi y sefydliadau rhagorol hyn, a'u gwneyd yn fwy effeithiol.

Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac o chwaeth ac arferion ysgolheigaidd. Dilynasai ei efrydiaethau o'r higher Mathematics yn unig o serch at y wyddor. Yr oedd yn ddarllenwr helaeth a myfyriwr dwfn mewn duwinyddiaeth. Carai ymgydnabod â phob gwaith o bwys a gyhoeddid ar dduwinyddiaeth, nad pa olwg neillduol a gymerid. Nid yn aml y deuid o hyd i feddwl mor ddiragfarn, ac mor abl, o ganlyniad, i edrych ar olygiadau gwahanol i'r eiddo ei hun, o safle neillduol y rhai a'u dalient. Yr oedd mor gadarn ag oedd bosibl yn ei syniadau philosophyddol a duwinyddol ei hun, ond medrai wrando yn deg a phwyllog ar olygiadau hollol wrthwynebol. Yr oedd ei ddeall yn gryf a goleu a disgybledig, a rhagorai fel rhesymwr. Yr oedd ganddo lywodraeth ryfeddol arno ei hun. Ni oddefai i dymer a ffansi ei gario ymaith. Medrai dewi. Ni fu yn gyffredin neb rhyddach oddiwrth ysfa i lefaru ac ysgrifenu. Myfyriodd lawer ar ieithoedd gwreiddiol y Beibl. Yr oedd yn hyddysg neillduol yn yr Hebraeg, a thra chyfarwydd yn nheithi ei iaith ei hun ac eiddo yr ieithoedd Celtaidd cyd-drasol, yn enwedig y Llydawaeg. Apelid ato yn fynych ar faterion ieithyddol ac hynafiaethol, a bu droion yn feirniad ar destynau mewn llenyddiaeth gyffredinol a barddoniaeth. Yr oedd er ys blynyddau lawer wedi ei apwyntio gan y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain yn Arholydd yn y Coleg, yn enwedig mewn Hebraeg a Mesuroniaeth. Yn y swydd bwysig hon rhoddai foddlonrwydd cyflawn i'r Bwrdd ac i'r myfyrwyr. Ni chlywsom fyfyriwr erioed yn achwyn arno fel arholydd angharedig neu fympwyol, neu un-ochrog. Am rai misoedd ar ol marwolaeth y Dr. Davies, o Ffrwd y Fal, cydsyniodd â chais y Bwrdd i fod yn athraw mewn Hebraeg a Mesuroniaeth, ac ni welwyd gwell grân erioed ar y dosparthiadau yn y canghenau hynny nag yn yr arholiad canlynol.

Ond ei brif wasanaeth i'r enwad Undodaidd a fu mewn cysylltiad â'r Ymofynydd. Yr oedd angen hir a gwaeddfawr wedi bod am gyhoeddiad i egluro ac amddiffyn golygiadau duwinyddol y blaid hon, tra yn rhydd i ysgrifau ar bob ochr bynag i unrhyw bwnc. Yn unfryd ac unllais ymddiriedwyd yr olygiaeth iddo ef, a gwasanaethodd hi yn ffyddlawn am dros dair blynedd ar ddeg. Dechreuodd y gyfres gyntaf yn Medi, 1847, a diweddodd yn Ebrill, 1854. Dechreuodd yr ail gyfres Ionawr, 1859, a diweddodd, oblegyd ei lesgedd cynyddol ef, ym Mehefin y flwyddyn ddiweddaf[1] . Fel golygydd yr oedd yn gall a phwyllog a boneddigaidd, ac mor amhleidiol ag i allu dal y glorian mor deg fel nad oedd gan neb sail gyfreithlawn i'w feio ef yn ei swydd. Credwn nad ysgrifenodd air fel golygydd y dewisasai yn ddiweddarach ei alw yn ol. Yr oedd ei erthyglau bob amser yn werth eu darllen ac yn ddarllenadwy; ei arddull yn rhwydd a llithrig, eglur a hollol ddiaddurn. Hawdd canfod bob amser fod ganddo afael sicr ar ei bwne, ac mai o helaethrwydd ei wybodaeth yr ysgrifenai. Pan derfynwyd y gyfres gyntaf o'r Ymofynydd yn 1854, yn hollol groes i'w ddymuniad ef y bu hyn; a phan ail-gychwynwyd yn 1859, siriol ymgymerodd â'r olygiaeth drachefn.

Fel pregethwr, nis gellir dweyd iddo fod yn llwyddiannus iawn, yn ol y safon gyffredin i farnu. Yr oedd ei bregethau yn llawn synwyr, ymresymiad, a nerth, a hoffid ef yn fawr gan yr ychydig deallus. Eto yr oedd cymaint o arafwch a thawelwch yn ei draddodiad, fel na lwyddai i dynnu sylw na chyffroi teimladau y lluaws. Pregethau i'w darllen ac nid i'w gwrando oedd ei bregethau ef yn bennaf. Ni roddwyd pob dawn i un. Dylid crybwyll ei fod yn gyfarwydd iawn â gwleidiadaeth, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynddi, yn lleol a chyffredinol. Yr oedd ei gryn odeb gwleidyddol yn yr Ymofynydd yn wastad yn wir werthfawr. Yn ei dref ei hun yr oedd yn is-gadeirydd i'r Board of Guardians, ac aelod o' Bwrdd Iechyd am flynyddau meithion, a gwnai e; ddyledswydd yn ffyddlawn a medrus ym mhob un o'r ddau. Llwyddai yn fynych trwy ei yspryd mwyn i gymodi pleidiau gwrthwynebol á'u gilydd.

Er ei holl ragoriaethau, a chyda rhai diffygion —pwy sydd hebddynt ?—mae lle ein tad a'n cyfaill ymadawedig yn wâg. Mawr welir e eisiau. Mae ei golli ef yn fwlch ychwanegol, ac yn fwlch mawr yn ein rhengau. Dilynodd ar hyd yr un llwybr â llu o'i gyd—lafurwyr, rhai yn hŷn a rhai yn ieuengach, ag ydynt yn ystod ychydig o flynyddoedd wedi ein gadael: Peter Joseph, Rees Davies, John Davies (Llwynrhydowen,) John Jeremy, Dr. Lloyd, Titus Evans, John Jones, Owen Evans, a David Benyon. Gorffwysant oddiwrth eu llafur, a neb eto ar eu hol yn llanw lle llawer ohonynt. Gweddiwn ar Arglwydd y cynhaeaf i ddanfon gweithwyr newyddion. Mae digon o ddefnyddiau yn ein heglwysi ond iddynt gael magwraeth a chefnogaeth briodol.

Claddwyd gwrthddrych y cofnodion hyn yng Nghaerfyrddin, ei dref enedigol, a thref a garai yn anwyl.

"Into the eternal shadow
That girds our life around,
Into the infinite silence
Wherewith death's shore is bound,
Thou hast gone forth, beloved!—
And it were wrong to weep
That thou hast left life's shallows,
And dost possess the deep."


Nodiadau[golygu]

  1. 1865.