Gwaith Gwilym Marles/Yr Hydref

Oddi ar Wicidestun
Wrth ddychwel o Angladd Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ymweliad â Phant Teg


YR HYDREF.

FE ganai bachgen bychan
Wrth grwydro 'mhlith y coed,
Ei ganig fachi Hydref
Pan onid deng mlwydd oed;
Anadl hen ysbrydoliaeth,
Na phaid o oes i oes,
Ysgubai dros ei delyn,
A'i thannau a ddeffroes.
 
Ei lygad craff plentynaidd
A welai dlysni mawr
Yn gwisgo perth a choedwig
Ar ryw brydferthaf wawr;
Cymysgai'r coch a'r melyn
Mewn amrywiaethau fyrdd,
Ac yma a thraw yn deneu
Oedd ambell lain o wyrdd.

Gwrandawai su gwynfannus
Yr awel yn y coed,—
Yr awel oer hydrefol
Sy drist ei chân erioed;
Pob deilen wan yn ysgwyd
Oddiar ei chorsen fach
Ei ffarwel hir i'r gangen,
Lle tyfai gynt mor iach.
 
Wrth weld y dail yn syrthio
O ddwylaw oer y gwynt,
Yn sychion a gwywedig,—
Nid irlas megis gynt,—
I'w gof y deuai'r Gwanwyn,
Y deuai'r Haf di—ail,
A synnai a wnai bywyd
Fyth wywo, fel y dail.


Y cloddiau'n goch o syfi,
Yr allt o lusw'n ddu,
A gofiai gyda thrymaidd
Ochenaid am a fu;
Fe welai nyth y fwyalch,
A'i chân a lanwai'r fro,
Yn awr yn noeth ac unig,
A'r crin-ddail drosti'n do.

Ar fainc o ddail sych—grinion
A rhedyn hanner gwyw,
A'r afon droellog obry
Yn murmur yn ei glyw,
Myfyrgar yr eisteddodd
Am ennyd wrtho'i hun;
Ond o'r rhigymau ganodd
Ar glawr nid oes yr un.

Pan gododd aethai heibio
Ryw dair o oriau chwai,
A haul prydnawn a eurai
Simneiau tal y tai;
Dychwelodd tuag adref,
A chri ei fynwes glaf,—
"Pa bryd daw eto'r Gwanwyn?
Pa bryd yr hyfryd Haf?"


Nodiadau[golygu]