Neidio i'r cynnwys

Gwaith Huw Morus/Arwyrain Rhian

Oddi ar Wicidestun
Ar fedd Sian Jones Gwaith Huw Morus

gan Huw Morus (Eos Ceiriog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Clywn lais

ARWYRAIN RHIAN Y RHIANOD.
Tôn,—"BRYNIE'R WERDDON."

MEILLIONEN burwen beredd, o fonedd rinwedd ryw,
A luniodd Duw yn lana, hawddgara, fwyna'n fyw,
Gwech raddol, rasol rosyn, lliw blisgyn irwyn wy,
Un dyner, cofia am dana, bryd Efa, noddfa nwy;
Yn hardd fel gardd deg urddol, o lesol nefol nod,
Ail Fenws, ole fwynwar, lon glaiar, lawn o glod.
Rhian yr holl lendid, gnawd hyfryd, gain wyt ti,
Diana i daflu hudolieth mewn afieth o'm blaen i,
Well-well fel Siwsanna, a'th eirda wela'n wych,
Fy angyles yn fy ngolwg, dda drefnus yn y drych;
Yr wyt ti, meinir odieth, yn berffeth beth i'r byd,
Hawddgara a'r fwyna, fenaid, deg euraid wyt i gyd.
Dy fân-wallt dros dy fynwes sy'n tanu'n llaes fel llin,
Pob modfedd, rinwedd raenus, yn drefnus wrth i drin;
Tra byddo ffansi ffyddlon yng nghalon gyfrin gŵr,
Cei gariad di-derfyniad, drwy sail osodiad siwr;
Tra byddo adar oediog yn rhodio brigog bren,
Bydd hynod glod y gwledydd, iach beunydd, uwch dy ben.

Tydi sydd phenix ffyniant, tydi yw seren serch,
Tydi sydd bêr winwydden, o foliant, irwen ferch;
Tydi sydd hylaw heulwen, eglurwen, glaerwen, glir,
Dy lendid sy'n disgleirio i sirio llancie'r sir;
Gwen eneth fel gwenynen, a'i min yw mwynen mel,

Dy gorff, dy gnawd, dy fwynder, mun dyner, i mií y del.
Rwy'n danfon serch a chariad a chaniad atoch chwi,
I 'smwytho caeth ochneidion sy'n 'nafu nwyfron i,
Chwi gawsoch wraidd fy meddwl yn gyfan gwbwl, gwawr,
A chwithe, gangen heini, a'ch serch yn oeri'n awr,
Rhyw ofal sy'n rheoli, rwy'n ofni am wen lliw'r od,
Gan hireth a gorthrymder, cyfyngder y ca i fod.
Trwy fy hun mi'ch gwelwn, bun addfain, gefn y nos,
Yn hoew fenyw feinwasg fel gwridog ddamasg ros,
Ow, ow, na chawn yn effro, pan fawn yn nofio o nwy,
Mor hawdd ych nawdd i'm noddi, i ddiffodd cledi clwy;
Sala swydd yw seilio serch, a marw am ferch mor fwyn.
Ac oni cha ych 'wyllys da, fe ddarfu am dana ar dwyn.


Nodiadau

[golygu]