Gwaith Huw Morus/Brad y Powdwr Gwn
Gwedd
← Traws Naws Nwy | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Swn Corddi → |
BRAD Y POWDWR GWN.
OND trist i Bapist ar bob pen—y dydd,
Yn y dwyll genfigen,
Amcanu mwya cynnen,
A dwrn y Pab dorri'n pen?
Mawr, mawr, nod rhyfawr i blant Rhufen—gas
Geisio brig brenhin—bren;
Lladd llywydd y llwydd llawen,
Llew a gâr wyr holl Loegr wen.
Beth a dâl dyfal weddi deufin—gŵr
Heb gariad yn wreiddyn?
Ni thal i ffydd beunydd bin,
Heb wir fron bur i'w frenin.
Da yw i'r doethryw, di-athrist—galon,
Gilio oddiwrth Anghrist,
Gwrthsefyll Pab a'r Pabist,
Yn enw cryf eneiniog Crist.