Gwaith Huw Morus/Carol Nadolig
← Carol Gwyl Ystwyll | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
CAROL PLYGEN.
I'w GANU AR DDYDD NADOLIG CRIST.
Ton,—GADEL TIR."
DYMUNA ddistawrwydd i ddadgan mawl newydd
I'n Harglwydd ben llywydd, clau arwydd, a'n clyw,
Amser nodedig i'w enw parchedig
I ganu'n gyhoeddedig yw heddyw.
Nefoedd a daear, nifeilied ac adar,
A fydd yn ufuddgar ddiolchgar i Dduw,
Mwy achos i ddynion roi mawl am i roddion,
Bob cam ar a gerddon, i'r gwir Dduw.
O'r ddaear yn cododd, o'r ddaear yn porthodd,
A'i fab a ddanfonodd, ni arbedodd, i'r byd;
A thrwyddo bodlone lwyr fadde'n pechode
Rhag diodde byth boene o boeth bennyd.
Angylion blygeinddydd o'r nef a ddoe'n ufudd,
Yn bêr i lleferydd, a'r newydd da i ni,
O eni Messeia ym Methlem ludea,
Yn Dduw, a dyn glana, i'r goleuni.
Bugeilied a'i clybu yn traethu ac yn canu,
"Ewch, gwelwch foliannu yr Iesu 'n ddi-rus,
Tangnefedd Duw cyfion, ac wyllys da i ddynion,'
A gane'r nefolion yn felus.
Bugeilied o'r meusydd aeth chwap i dre Ddafydd,
Cyn dwedyd yn ddedwydd y newydd i neb,
Cael Joseph heb gysgu, a Mair heb un gwely,
Yn ymgleddu'r pur Iesu 'n y preseb.
Crist Iesu a gynyddodd, a'i rinwedd a rannodd,
Pob un a'i gofynnodd a gafodd fawr ged,
Bywhau y rhai meirwon, y cleifion, a'r deillion,
Oedd dystion o'r mawrion ymwared.
Ag un gair o'i ene gwnaeth lawer o wyrthie,
Fe wydde am a fydde feddwl pob bron,
A'r diawled a dafle i'w haflan drigfanne
Heb gael i'w meddianne mo'i ddynion.
Fo ddug y cenhedloedd, oedd ddrwg i gweithredoedd,
I briffordd y nefoedd, da ydoedd y daith;
Er cimin i camwedd, fe i trodd i fyw'n santedd,
A'i rinwedd, gyfannedd gyfion-waith.
Ond mawr oedd trugaredd y Cyfion di-gamwedd,
I ymostwng mor waredd i'r trowsedd rai trwch,
A'i dygodd i laddfa, drwy ddirmyg a thraha,
I gael i lin Adda lonyddwch?
Er cael i groeshoelio, trugaredd oedd ynddo,
I fadde, nid addo rhoi dial a wnaeth,
Ychydig o ddynion a fydd yn ufuddion
I fadde i'w caseion ysywaeth.
Er claddu y gwir Seilo mewn bedd, a maen arno,
A milwyr yn gwilio, yn gryno blaid gre,
Y bedd a ymegorodd, a Christ a gyfododd,
Perchnogodd a nododd eneidie.
Fe brynnodd byth bardwn i Adda ac i'w nasiwn,
Credwn, na amheuwn, eglurwn i glod;
Gorchfygodd y nerthol, y bwystfil uffernol,
A dwyllodd y bobol heb wybod.
Crist fy nghyfryngwr, a'm nawdd, yn creawdwr,
Nid oedd yr un dyddiwr, cytunwr, ond hwn,
I eirie fydd warant yn bod yn i feddiant
I foliant a'i ogoniant a ganwn.
Drwy wir edifaru a chredu 'n yr Iesu,
A gadd i ddirmygu a'i geryddu ar y groes,
Ni a gawn iechydwrieth, a chyfion orchafieth,
Sydd well na brenhinieth i'n heinioes.
Rhoes gymun a bedydd i gofio i ni beunydd
Yn himpio ni o newydd ar grefydd y gras,
I wyllys a wnelom, a pharod a fyddom
Pan alwo Duw arnom i'w deyrnas.
Os gofyn dyn diwiol pwy luniodd y carol,
O fawl i Dduw nefol, orseddol i swydd,-
Hen ddyn a phen baban, a'r awen yn fechan,
A'i gorff yn oer egwan ar ogwydd.