Gwaith Huw Morus/Cerdd Owen o'r Pandy
← Wrth fynd i'r Eglwys | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Pedr Cadwaladr → |
CERDD OWEN O'R PANDY.
Tôn,—"GADEL TIR."
Os mynnwch hysbysrwydd o hanes ynfydrwydd,
Chwi ellwch yn hylwydd heb gelwydd i gael,
Mi gymres boen lawer, drwy drafferth a blinder,
A hynny'n rhy ofer fy nhrafel.
Ni ddichon aderyn fawr hedeg heb edyn,
Pa fodd y tro i'n gerlyn—oferddyn y fum;
Llawer bai hynod, ym marn fy nghydwybod,
Mewn bythod, wyw nythod, y wnaethum.
Mi fum yn marchnata o'r Mwythig i'r Bala,
Ar feder cael helfa trwy elwa 'mhob tre;
Er bod yn gyfarwydd, anfynych heb aflwydd
Y down mewn parodrwydd pur adre.
Cychwynnwn yn gynnar, fel clomen feddylgar
Ag ymborth i'w hadar, gan redeg yn chwyrn;
Rhyfeddol y fydde er Mercher y bore
Fynd adre cyn Difie gan defyrn.
Pan fyddwn ofalus, a'm bryd a'm llwyr wyllys,
Fynd yn ddi-rwystrus, wir drefnus, o'r dre,—
Rhyw hanner cydymeth, os medre beth gwenieth,
Mewn cwlwm hudolieth a'm dalie.
Gwyr cedyrn feddylie a fedrent fynd adre,
I galw i goeg fagle ni phoene rhai ffol;
Yn feddwon pan fydden, a male ymhob talcen,
Hwy alwen ar Owen yn reiol.
Pob math ar ddyn llawen, brau amarch a brwynen,
A'm twyse at y fflagen, fin fursen fain fer;
Nid alle ond llaw gadarn, fy nhynnu a thid haiarn
Ffwrdd allan o'r dafarn wawd ofer.
Hir aros i wario, dan botio, nes dotio,
Cael weithie fy nghogio, dan socio yn y saws,
Y wraig yn cam gyfri, a rhai o'r cwmpeini,
Yn cecru drwy egni 'n y drygnaws.
Talu'n rhy lithrig, rhoi f' arian ym menthyg,
A minne'n bendefig malledig o'm lle;
Os coeliwn i am danyn, rhaid bod yn hir hebddyn,
Ac ambell ddyn gwydyn a'u gwade.
Ffeirio cyffyle, rhy sal i cymale,
Pob math a'm boddlone, o bydde fo byw,
A'r anfad fargenion a'm trodd mewn anghenion
Trwy amal golledion, gwall ydyw.
Troi 'r gwenith yn hedion, a throi 'r fale perion
Yn grabas rhy chwerwon, arferion oer fâr;
Troi 'r gwlan yn flew garw, dall a di-elw
A fyddwn i, 'n feddw ac yn fyddar.
Er bod yn cam weled, da medres i gerdded,
Hyd lwybyr y ffylied, i fyned ar feth;
Tristau ngharedigion, a gwneuthur yn union
Wrth fodd fy nghaseion ysyweth.
Rhoi ffarwel i'r ffeirie, anfuddiol a fydde,
Troi 'r syllte 'n fân ddarne, gwae finne o'r gwaith;
O'r diwedd troi 'r pyrse i chwilio am genioge,
A ffaelio cael weithie, coel waeth-waeth.
Nid all un cydymeth roi dig farnedigeth
Am ochel coeg ddiffeth gwmnieth yn hwyr;
Ni chymra i mo'r ennyd, heb i mi ddwyn pennyd,
Yn nghwmni rhai ehud yn rhyhwyr.
Fy nghorff aeth yn wannach, a'r pwrs yn ysgafnach,
Wrth yfed, waith afiach, heb eiriach, a'i par;
Pwy gwyne i ddyn ynfyd? Nid oes i mi i'w gymryd,
Am iechyd a golud ond galar.
Hawdd fydd dadwreiddio pren a fo'n crino,
Rwy'n dechre heneiddio, marweiddio fy mrig;
A'm henaid am hynny, mewn ofn yn dychrynnu,
Rhag haeddu barn Iesu, bwrn ysig.
Gwrando di, ngharwr, os ei di 'n farchnatwr,
Na ad i'r oferwr, maith heliwr, mo'th ddal;
Canlyn y cotyn, rhag mynd yn gardotyn,
O botyn i botyn heb atal.
Yr hwsmyn rhadlonedd, nid yfant ormodedd,
Clod a thymhoredd ddigonedd a gân;
O aros i feddwi, ceir trwstan fusgrellni,
A diwedd i gwegi fydd gogan.
Mi a fwries fy ennill, ar redeg drwy ridyll,
Yn siampli erill i gynnull yn gall;
A hauo'n dda ddichlyn a fed yn ddi-newyn,
I lafur ni oresgyn yr ysgall.
Y dyn a deif arian i'w hau lle na thyfan,
Geill fod ar ry fychan i hunan yn hen;
Mae hynny 'n fai hynod, mor gas a chybydd-dod,
A hawdd iddo wybod i ddiben.
Madws amode ymadel a'r magle,
A dianc drwy'r trapie 'n well adre ar fy lles;
Ar bawb rwy'n dymuno na cheisiont mo'm rhwystro
O'm hanfodd i grwydro ac i rodres.
I gael i drugaredd i'm hachub rhag dialedd,
Oddiwrth fy ngorwagedd yn druanedd mi dro;
Yn enw Duw nefol, mi gadwaf well rheol,
Mewn buchedd rinweddol, rwy'n addo.
Crist yn gadernid, prif Arglwydd y glendid,
A nertho fy ngwendid a'm rhydd-did i'm rhaid;
I dalu nyledion i Dduw ac i ddynion,
Rhag bod yn ofynion ar f'enaid.
Drud iawn y prynnes yr addysg y gefes,
A llwyr y difleses ar y geres i gynt;
Plesere didoreth yw pob anllyfodreth,
Yn niwedd rheoleth yr helynt.