Gwaith Huw Morus/Pob mab sydd mewn cariad
← Clywn lais | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y weddus winwydden → |
РOB MAB SYDD MEWN CARIAD.
Mab yn achwyn ar i gariad am i droi fo heibio, a'r ferch yn ateb, bob yn ail bennill.
Tôn,—"ANODD YMADEL."
POB mab sydd mewn cariad, a'i fwriad ar ferch,
Drwy lwysfwyn ddeisyfiad yn siarad am serch,
Na roed ar liw lili mo'i ffansi'n rhy ffri,
Cymered athrawieth carwrieth gen i.
"Y carwr trwm gyflwyr, myfyriwr am ferch,
Sy 'n canu ac yn cwyno i ddiswyddo o serch,
Gwybyddwch mai ofer o bleser i blant
Ddadguddio cyfrinach y gilfach i gant."
Ceres fun hafedd, fwyn brafedd o bryd,
I chwmni oedd ddiddanwch hawddgarwch i gyd,
Nid oedd un ar aned cin fwyned a'r ferch,
Yr awron yn rhyw fodd hi a'm siomodd am serch.
"Troi 'r diwrnod aeth heibio dan wylo eto 'n ol,
Yw son am hen ffansi, a phorthi peth ffol;
Mae serch ar y dechre yn cynne fel carth,
Pan dderfydd hi a ddiffydd heb gwilydd na gwarth.
Mynych gyfarfod lliw'r mân-od a wnawn,
I wrando ar i mwynder, i doethder, a'i dawn;
Deu gwell po fynychaf, yn awchus i'r daith,
Y cwrddem yn gilydd, heb gwilydd o'n gwaith.
"Na ddwedwch mo'ch siomi na cholli dim chwaith,
Er maint a fu 'ch trallod, a'ch tafod, a'ch taith;
Nid oedd fy nghymdeithas gen haelwas yn hir
I'w fwrw 'n oferedd, anweddedd yn wir."
Bum yn hir siarad a'r seren dda'i sail,
Hawddgara i geirie, wedd ole ddi-ail;
Cu'r oeddwn i'w charu, ran haeddu 'roedd hi,
Nid dau mwy ffyddlongar oedd meinwar i mi.
"Tra ceres i'n ffyddlon, bum dirion heb dwyll,
Yn cadw pob amod mwyn parod mewn pwyll;
Mi a welwn ych tegwch, na farnwch ar ferch,
A'ch gwawr yn rhagori, nes oeri fy serch."
Pan weles i hynny, mynegi wrthi a wnawn
Fy meddwl yn gwbwl, ac ateb a gawn,
'R oedd hithe wrthyf finne'r un modde'n fy mryd
Yn adrodd i hamcan yn gyfan i gyd.
"Rwy'n clywed ych geirie a'ch dadle mod i
A'm serch yn ffyddlonach, awch wychach, na chwi;
Finne gaf ddannod, cewch anghlod i'ch oes,
Ych bod wrth wenieithio 'n rhagrithio 'n rhy groes."
Yn ddidwyll hi ddwede, ni cheisia i mor gwad,—
"Pe gyrrech chwi rywun i'm gofyn i'm tad,
Cytunwch os gellwch, treiwch y tro,
A phrun bynnag hefyd, rwy'n dwedyd y do."
"Ni wadaf, ni wades na cheres i chwi,
A chwithe ddwys dyngech na fynnech ond fi;
Mae bagad yn chwennych yn fynych 'r un fael,
Haws ceisio'n garedig, a chynnyg, na chael."
Meddyliwn yn llawen o'm seren mor siwr,
Nad aethum yn sydyn i'w gofyn i'r gwr;
Ni bum i chwaith gartre dros dridie' n ymdroi
Nes darfod i'r onix, wen phenix, fwyn ffoi.
"Er cimint ych afieth, ych gwenieth, a'ch gwawd,
Ni'm dalied, ni'm rhwymed mewn rhwymyn pen bawd;
Ac er nad wyf onix, na phenix i'ch ffair,
Y dynged lle diangodd a'm gyrrodd o'm gair."
Fel hyn ymadawodd, hi giliodd o'r gwaith,
Nid gwiw oedd i gofyn, na chychwyn ychwaith;
Ni ddoe yn fy nghyfyl, anghofiodd y fun
Gynt yr addewidion a ddwedodd i hun.
"Os cawsoch addewid, mawr wendid, am rodd,
Os troell fy meddyliau, oedd drymion, a drodd,
Ond iawn i bob rhiain o Lundain i Leyn,
Os ca i llawn ewyllys, gael dewis i dyn?"
Nis gwn i mo'r achos i'r linos wen lwys
Fel hyn fy nhroi heibio, gan ddigio mor ddwys;
Nid oedd neb yn crefu am feddu 'r wen fun,
Na'r addewidion a ddwedodd o'i hanfodd i hun.
"Mae'r gwynt wrth i reol naturiol yn troi,
A'r haul at i fachlud hoff hyfryd yn ffoi;
Rhai merched a fiaethus, rai trefnus, sy'n troi,
Mwy o lawer o feibion anffyddlon sy'n ffoi."
Gyrru cenhadon at Wenfron yn iawn,
Ni ddaeth â mi i siarad er dim ar a wnawn;
A mwyned a fydde i phwyntmanne hi gynt,
Ond galw doi i'm gweled gin gynted a'r gwynt.
"Os ydych wr cymwys a chyfrwys a chall,
Nid ydyw gwaith Ciwpid ond ynfyd a dall;
Fy nghlwyfo pan geisiodd, fe syrthiodd i saeth,
Mi a gedwes fy mynwes, nid ofnes fod waeth."
Nid oes achos eto i ddigio wrthyf fi,
Gan gofio a gwir goelio llwyr gilio ohoni hi;
Pe rhoise mewn undeb i hateb i hun,
Ni base raid dangos yr achos i'r un.
"Och i chwi achwyn ar forwyn o ferch,
Fel un a fae 'n meiddio fy siwio am serch;
Heb sel am addewidion, na dynion yn dyst,
Mewn cyfreth carwrieth ai perffeth yw pyst?"
Mae'n debyg mai i meddwl yn drwbwl a drodd,
At arall wr tirion oedd burion i'w bodd;
Mi glywa i 'r fun lana, hoff iawna i choffhau,
Er hardded i glendid roi addewid i ddau.
"Er dangos ych maswedd air marwedd i mi,
Ni rodda i fyth ogan na chusan i chwi;
Camol ych awen yn gymen a gaf,
A'ch galw'n hen gariad anynad a wnaf."
Nid ydw i'n goganu mo'r fwyngu wen ferch,
Er iddi fy nrysu a'm siomi am serch;
Ond eto rwy'n tybied, heb fyned i bell,
Cael gystal a hithe, fealle, ne well.
"Chwi ddwedwch, ni chelwch, y gellwch gael gwell,
Heb gyrchu mo 'ch cowled wen beillied o bell;
Cymerwch a phrofwch, na 'mffrostiwch yn ffraeth,
Rhag cael i'ch ymgleddu gywely a fo gwaeth."