Gwaith Huw Morus/Rhagymadrodd
← Gwaith Huw Morus | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |
Rhagymadrodd
Ganwyd Huw Morus yn amaethdy Pont y Meibion, Glyn Ceiriog, yn 1622; bu farw yno, Awst 31, 1709, a chladdwyd ef wrth fur eglwys Llansilin.
Ychydig o ffeithiau sicr ei fywyd sydd ar gael; ond casglwyd, o dro i dro, lawer o hanesion am dano oddiar lafar gwlad.
Bu'n brentis i farcer yn Owrtyn, ar wastadedd sir Fflint; ond dychwelodd i drin tyddyn ei dad, ac ym Mhont y Meibion y treuliodd ei oes faith.
Yn ol un traddodiad, yn ystod ei brentisiaeth ym Maelor Saesneg yr ymwelodd yr awen gyntaf ag ef. Cysgodd, ryw hirddydd haf, dan Iwyfen gysgodol. Pan gysgodd, nid oedd ond prentis barcer; pan ddeffrôdd, teimlai fod yr Awen wedi cyffwrdd ei wefusau, a'i fod yn fardd.
Yr oedd ei awen yn ffrwythlon nodedig. Dywedodd lolo Morgannwg wrth David Samwell[1] fod Gwilym Hywel o Lanidloes wedi casglu tri chant o i ganeuon. Ar lafar gwlad ac mewn ysgrif y cedwid y rhain hyd yn gydmarol ddiweddar.[2] Ymddanghosodd pedair yn y "Carolau a Dyriau Duwiol " yn 1720; chwech a deugain yn y Blodeugerdd," yn 1779; deunaw o gwyddau, 130 o gerddi, a 229 o englynion, yn "Eos Ceiriog," casgliad Gwallter Mechain, yn 1S23. Y mae llawer eto, yn cynnwys rhai o'r cerddi tlysaf, heb eu cyhoeddi.
Eu melusder hyawdl yw prif swyn cerddi Huw Morus. O'r dechreu i'r diwedd nid oes ball ar felodedd "y gân rwyddlan ireiddlwys." At eu canu yr ysgrifenwyd hwy; wrth godi y rhai sydd yn y gyfrol hon o ysgrif lyfrau, cofiwn am danynt, linell ar ol llinell, fel y clywais eu canu gan hen bobl ryw chwarter canrif yn ol. Apeliai Huw Morus yn rymus at y serch ac at y gydwybod,— nid rhyfedd fod ei gerddi'n aros mor hir ar gof gwlad. Canodd gerddi serch nad oes eu tlysach yn yr iaith; addolai ferch dlos o bell, ond ni phriododd yr un. Condemniodd bechod, yn enwedig trachwant ac oferedd, ar adeg yr oedd cydwybod gwlad eto 'n dyner oherwydd y deffroad Puritanaidd, ac ar adeg y gwneid trawsder oherwydd cyfleusterau'r cyffroadau a'r ansicrwydd gwleidyddol. Daeth cerdd Huw Morus yn llais bywyd goreu ei wlad; fel y dywed Edward Samuel yn ei farwnad,[3]—
"Gwae Bowys ffracthlwys ffrwythlawn,
Ei bod heb dafod y dawn."
Cydoesodd Huw Morus a phob teyrn o lin Stuart,—James I, Charles I, Charles II, James II, William a Mary, ac Anne. Yr oedd yn Freniniaethwr ac Eglwyswr cyson, a thueddai at Doriaeth os nad at Jacobyddiaeth. Dengys y gerdd "Yr Hen Eglwys Loeger " mai gwir a ddywedai Edward Samuel,—
"Gwrth'nebydd dedwydd ei dôn,
Cry dig-, i'r Caradogion;
A gelyn cyndyn ei caid,
Clau fynwes, i'r Calfìniaid."
Y mae'r cerddi yn nhafodiaith Powys, fel yr ysgrifennodd Huw Morus hwy, ac fel y cenid hwy ar lafar gwlad. O leiaf, y mae pob cân fel y cefais hi yn y llawysgrif hynaf. Dywedai Huw Morus "ened " ac "eneidie", ond defnyddiai ffurfiau llyfr ambell dro. Nid yw yn hawdd bob amser wybod sut i ysgrifennu llinell, megis
"A cheisiwch anghenred i'r ened ych hun."
Byddaf yn dilyn y llawysgrif, sut bynnag y bydd, os yn gynharach na 1750. Gwelir mai cerddi serch a marwnad, cerddi'n desgrifio bywyd pob dydd, yn hytrach na cherddi ar faterion pwysig a chyffrous y cyfnod hynod y bu Huw Morus byw trwyddo, welir yn y gyfrol hon. Dengys cerddi ereill, i ymddangos yn y gyfrol nesaf, beth oedd ei feddwl o gwestiynau politicaidd ei ddydd,—megis y Werinlywodraeth, dechreuad Ymneillduaeth, adferiad y brenin, prawf Algernon Sidney, gwladlywiaeth eglwysig lago, a gwladlywiaeth dramor William y Trydydd.
Dymunaf ddiolch yn wresog am gynhorthwy, trwy gael benthyg ysgriflyfrau neu wybodaeth am danynt, i Richard Williams, F.R.H.S., y Drefnewydd; J. Gwenogfryn Evans, M A., D.Lit., Rhydychen; R. H. Evans, Arosfa, Llanrhaiadr ym Mochnant; J. Glyn Davies, y Llyfrgell Gymraeg, Aberystwyth; Carneddog, Nantmor, Beddgelert; a'r Parch. J. T. Alun Jones, y Coleg Duwinyddol, y Bala.
OWEN M. EDWARDS
- LLanuwchlyn .
- Medi i5 1902.
Nodiadau
[golygu]- ↑ O ysgrif David Samwell yn y " Cambrian Register," Cyf. I. (1795) tudalennau 426—439, y codir bron bob ffaith am Huw Morus nad awgrymir gan ei gerddi ef ei hun. Yr oedd David Samwell yn fardd ei hun, yn orwyr i Edward Samuel, ac yr oedd g'yda'r Capten Cook pan laddwyd ef yn Ynysoedd Môr y De.
- ↑ Gydag ychydig eithriadau. Ymddanghosodd rhai yn "Llyfr Ffoulk Owen" (Rhydychen, 1686); cyhoeddodd Thomas Jones rai ereill yn y Mwythig, yn 1696. (" Eos Ceiriog." Cyf. I. xvii).
- ↑ Ymddangosodd yn llyfr Hugh Jones o Langwm. Dewisol Ganiadau yr Oes Hon " (tud. 73—78). Cwyna David Samwell fod cywydd ei daid wedi ei hargraffu yn dra anghywir.