Gwaith Huw Morus/Y Gu Eneth Gain
← Swn Corddi | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ar fedd Sian Jones → |
Y GU ENETH GAIN.
Tôn,—DIFYRRWCH GWYR DYFI.
Y GU eneth gain, a'r goleuni glain,
Benodol bun wiw-dlws, liw Fenws ael fain;
Ych tegwch a'ch dawn, rhy loew a rhy lawn,
Am gyrrodd dan gurio i dramwyo'n drwm iawn;
Ciwpid a'i gwnai, fe fu arno fai,
Na wnaethai ar gariad na throiad na thrai;
Os serch a hir sai, fel llwydrew fis Mai,
Mi dodda 'n y diwedd, modd rhyfedd, medd rhai.
Fy llyged fy hun, a'm clustie'n gytun,
A wnaethon gam hwythe, bu beie ar bob un,
Am graffu ar ych lliw, y win-wydden wiw,
A gwrando'ch ymadrodd a'm brathodd i'm briw;
Rwy'n diodde ac yn dwyn pur gariad heb gwyn,
Oblegid fod glendid yn f' erlid yn fwyn,
Ni fase dan f'ais na thrallod na thrais
Pe baswn heb weled na chlywed ych llais.
Cardigrwydd rwydd radd mewn cwlwm a'm cadd,
Rwy'n ofni mai cariad i'm lleuad a'm lladd,
Os tegwch am dwg i'r ddaear ddi-wg
Fe fydd i chwi ogan a'i ddrogan yn ddrwg;
Ystyriwch mewn pryd mai gwagedd i gyd
Yw coweth, hudolieth, bywiolieth y byd;
Llareiddiach, lliw 'r od, i fyw ac i fod,
Yw twymyn ffyddlonddyn na cherlyn â chod.
Dyn wyf fi dan ia, nis gwn beth a wna,
Am wres a chynhesrwydd rhywiogrwydd yr ha,
Y chwi a'm hiacha, os dyfn 'wyllys da,
O'ch tyner glaiarwch hawddgarwch a ga;
Mi fydda, fy lloer, di-ana a di-oer,
Yn llon ac yn llawen fel clomen mewn cloer;
Mwy mawredd i mi yeh hardd wyneb chwi,
Liw Efa, na lifin mawr frenin a'i fri.
Canmolieth a gewch os chwi drugarhewch,
Rhoi purdeb am burdeb mewn undeb a wnewch;
Rhowch imi serch lefn, drych afieth drachefn,
A chariad am gariad, di-droiad da i drefn.
Wel dyna'r tri pheth na phlyg, teg i phleth,
I gynnal diddanwch difyrrwch di-feth;
Gwell i barhau yw dwy galon glau
Na dwyfil o bunne yn dyrre rhwng dau.
Dymunwn cyn hir, wen seren y sir,
O waelod cydwybod gael gwybod y gwir,
Oes fodd i mi, 'r fun, ych cael wrth fy nghlun,
Y wiwloer ddi-welw, ar fy helw fy hun?
S gynnes os ca, y wawrddydd awr dda,
Iawn ddwedyd,-- Rwy'n ddedwydd," yn ufudd a wna,
"Meillionen y lles yn gowled a ges,
Lân ethol wenithen, sef twysen y tes."