Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Awdl y Nef

Oddi ar Wicidestun
A very Phantastic Sight Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards

AWDL Y NEF.

ARWYRE, Awen, uwch yr Yri—fan,
Cais o fyd ymgodi;
Ehed, cei afrifed fri,
I loew—nef y goleuni.

Bro lwys, Paradwys ysprydawl,—llys Ior,
Lle seirian rhyfeddawl,
Lle mae llewych gwych a gwawl
Hyfrydwedd ein Naf rhadawl:

A main gwyrth i'w byrth a'i barthau—euraid,
Araul wiw drigfannau!
Llys diddan, gwiwlan, golau,
Caer Grisiant, meddiant Duw mau:

Lle mae saint cywraint yn cyweiriaw—cân,
Yn cannaid ddysgleiriaw;
A'r delyn aur i'w dwylaw,
Yn lleisio dros y llys draw:

Yn dadgan lwys-lan, loew oslef—peraidd.
I'r pur Oen fu'n dioddef;
A'r nawradd oll yn addef,
Gun teg, ei ogoniant Ef.

O! fywyd hyfryd mewn hoew—fro—gorhoen,
O gyrraedd pob cyffro;
Gwastad, heb dreiglad, heb dro,
Yw llawenydd oll yno.

Angylion gwynion mewn gogoniant,
Llys Ior, cain oror, cyniweiriant,
Lle uwch y lluwch y llewychant,
Llu glân, lle uwch tân y tywynant,
Uwch huan eirian, uwch ariant,—a ser,
A hug o leuer y goloewant.


Yng ngoror gwiw-nef y cartrefant,
Ebystl Iesu, byst dilysiant,
Ac wrth ei lwysaf orsedd safant,
A theyrnwiail a gyneiliant,
Hoew wedd, gwiw osgedd, gwisgant—goronau,
A gwiw heirdd ynau, ac urdduniant.

Merthyron, ddewr—llu'r ffydd ddiffuant,
Mewn gwawl cyhoeddawl y cyweddant,
A hoew, rhag ereill, y rhagorant,
Da weis eglurwedd, a disgleiriant,
Ac yno i'w dwylo daliant—balmwydd,
Yn llon ysplenydd, lle nis blinant.

Proffwydi diau a oleuant,
A Phadrieirch mewn ffawd arhoant,
A llawer, mal ser, yn moli'r Sant
(O enwau tra-gwiw !) yno trigant;
A dynion doethion a deithiant—ffordd gras,
Y cu fan addas cyfaneddant.

O Iesu Ddofydd! ddwys oddefiant,
Coeth Ior goleu-ddoeth, o'th ryglyddiant,
Y meirwon isod a gyfodant,
At Iesu gwyn hwynt-hwy esgynnant,
Gorfoledd a hedd, dyhuddiant a hoen,
Yno gyda'r Oen a gydrannant.

Pura fi, O Dduw! par faddeuant,
Gwedi oferedd, ac edifeiriant;
Maddeu arw feiau a ryfuant,
Gwydiau, anafau, ieu'nctyd, nwyfiant;
Gollyngdod pechod yw'r puchiant—mau,
A llys nef orau, lles nifeiriant.

Nodiadau

[golygu]