Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Caniad ar enedigaeth Sior, Tywysog Cymru

Oddi ar Wicidestun
Penhillion y Telynor Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cofio'r Esgyb Eingl

CANIAD AR ENEDIGAETH SIOR,
TYWYSOG CYMRU.

Ar y dôn a elwir "Y Cyntaf o Awst."

MOESWCH, feirdd, mewn cywrain gân
(Ond diddan yw i'n dyddiau?)
Roi geiriau glwys o gywir glod
At hynod lais y tannau,
I ganmol Llywydd nef a llawr
Am roi Tywysog, enwog wawr,
Er llawenydd, ddedwydd awr,
A dirfawr lwysfawr leisiau.


Dyma ddydd i'ch llawenhau;
A'ch genau rhowch yn gynnar
Ei haeddawl glod i Frenin nef,
A bid eich llef yn llafar;
Am fendithion, moddion mad,
Dro iawn a glwys i dir ein gwlad,
A roes yr Arglwydd rhwydd yn rhad,
Yn ddiwad ar y ddaiar.

Am eni Tywysog Cymru gain,
Etifedd Frydain frodir,
Gan bawb a garo'r uniawn ffydd
Y dydd a anrhydeddir.
Am hynny unwch bob yn gôr,
O fawr i fach, o fôr i fôr,
I foli'n rhwydd ein Harglwydd Ior,
O fewn yr oror eirwir.


Nodiadau

[golygu]