Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Curadiaeth Esmwyth
← Melldithio'r Saeson | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Penhillion y Telynor → |
CURADIAETH ESMWYTH.
Anwyl Gyfaill,[1]—Myfia a dderbyniais y gist â'r dillad, ac yr wyf yn mawr ddiolch i chwi a'ch gwreigdda am y boen a gymerasoch o'm plaid i a hwythau; a diau yw fod y gŵn yn ddrwg ei waneg pan ddaeth yna, a'r gasog hefyd. Bendith Dduw i'r dwylo a'u dygodd unwaith etwa i'w llun a'u lliw cynefin; a gobeithio y bydd y gwisgwr yntau yn addasach i'w gwisgo. Diolch hefyd am y gwregys a'r bandiau, eiddo'r Dr. Scot. Anghof a brys fy mrawd wrth ddyfod o'r Gogledd a barodd adael fy sash fy hunan ar ol. Mi a ysgrifenais i Lanfair Talhaiarn am dani, ac a berais ei danfon gyda rhywun onest i Lundain, a'i thraddodi yn eich dwylo chwi; o herwydd y mae o leiaf yn werth chweugain o arian; ac o iawn foddion a gwneuthuriad. Yr wyf yn gobeithio derbyn llythyr oddi yno cyn pen tair wythnos. Mi a erchais ei ysgrifenu mewn caead atoch chwi, o herwydd na fynnwn iddynt wybod fy nhrigfan, rhag ofn cael fy syfrdanu â llythyrau yng nghylch rhyw fân ddyledion sydd arnaf yno, ac felly gyrru traul arnaf heb ddim budd na ched iddynt hwythau. Hen wr godidog ydyw'r clochydd yno. Anaml iawn y ceir yng Nghymru bersoniaid o'i fath. Y mae yn deall Lladin a Hebraeg, Seisoneg a Chymraeg, yn odiaeth. Y mae yn deall yr hen feirdd yn lew Liawn. Fe ddywawd wrthym i iddo ddanfon i chwi gopi o Gyfraith Hywel Dda ar hen femrwn gydag un Robert Llwyd oedd yna y pryd hwnnw yn brentis apothecari. Y mae ganddo lawer iawn o lyfrau Cymraeg, ond nid llawer o FSS. Ganddo ef y mae'r Almaenacau Cymraeg a soniais wrthych o'u plegid. Os mynnwch, mi a ddanfonaf ato am danynt. Yn ddiau y mae ynddynt bethau hynod a gwerthfawr; ac myfi a wn na nacâ ef mo honynt, o herwydd yr oedd yn fy hoffi, er fy holl feiau, yn ddirfawr, ac mi wn y gwnai un peth a'r a geisiwn a fai resymawl, yn ddiatreg, o cheisiwn. Cristion da ydyw, a gwybodol mewn llawer o gelfyddydau cywrain. Nid wyf yn cofio i mi son am dano wrthych erioed o'r blaen. Myfi a berais iddo ysgrifenu llinell neu ddwy atoch chwi yn y caead.
Myfi a fum yr wythnos ddiweddaf gyda Mr. Lloyd o Gowden, yr hwn, gwedi rhoi imi bregeth, a'm croesawodd dros wythnos. Yn ddiau, nid allaf byth dalu y rhwymedigaeth sydd arnaf i'r mwynwr hwnnw, mwy nog i chwithau. Gresyn na bai yn deall mydrau Cymreig cystal ag y mae y rhai Groeg a Lladin; diau na byddai na Gronwy na neb well nog e. Nid oes yma air o druth na gweniaith, ond yr union wir. A pheth sydd fwy eto, nid oes un gwyd na drwg arfer wedi greddfu ynddo. Anaml iawn y mae'r fath ddynion y to heddyw. Myfi a grybwyllais wrtho yng nghylch y traethawd yna o blaid yr Esgyb Eingl. Os ewch yno i ymweled ag ef, mae, fal y dygwch ef yno, i'w geryddu ganddo; o herwydd nad adwaen i neb a feidr yn well, na neb chwaith y meiddiwn ddadguddio y cyfryw gyfrinach iddo, ond y gwr o'r Swydd Lyngesawl, a'm hathro haeddbarch o Ystrad Meurig. Myfi a ysgrifenais hir llythyr at y gwr hwnnw yn ddiweddar, ac a ddeisyfais arno ddanfon Testimonium o dan llaw y gwŷr llên o wlad Ceredigiawn, i'w ddanfon at Esgob Dewi i ddodi ei law wrtho. Nid oes yr awron ddim llawer o achos am y fath beth, ond goreu ei gael, o herwydd y mae yn ffurf ganddynt. Myfi a ysgrifenais hefyd lythyr yn ddiweddar at y Parchedig Mr. Thomas Percy, Caplan Duc Northumberland, i'm hesgusodi fy hun na ddaethum i'w weled yn ol fy addewid. Ý mae yna lawer o'i lythyrau ataf fi. Y mae yn gohebu â mi es chwe mlynedd; a diau dyn godidog ydyw. Myfi a grybwyllais am eich brawd Lewis yn fynych wrtho, ac myfi a fynegais yng nghylch y Celtic Remains wrtho. Os daw yna, gobeithio y byddwch mor fwyn a'u dangos iddo. Nid oes nemor o'i elfydd y dydd heddyw. Y mae yn gyfaill anwyl i Mr. Johnson, awdwr y Rambler, large folio English Dictionary, &c.
Am fy llyfrau sydd yn eich cadwraeth chwi,
myfi a adawaf y cwbl yna hyd Wyl Fihangel.
Ac od oes yna ddim a dâl ei ddarllen neu ei
ddadysgrifenu, y mae iwch gyflawn groesaw
hyd yr amser hwnnw. Ymgeleddwch, da
chwithau, ychydig o'r papurau rhyddion yna,
yn enwedig llythyrau eich brawd Lewis at
Athro Ystrad Meurig. Da iawn fyddai pei
cawn yr atebion sydd ym Mhenbryn o eiddo
YR WYN AETH I FRWYNO.
"Pob un a grwydro a geir adre."
Mr. Richard: ac yno fo fyddai yn llyfr diddan,
amgenach, yn fy marn i, no llythyrau Pope
a Swift, ac ereill wŷr penigamp a ysgrifenasant
yn ddiweddar. Ymorolwch, da chwithau, am
danynt.
Nid oes gennyf ddim yr awron i'w wneuthur ond ysgrifenu a phregethu Seisoneg, a darllen llyfrau dewinaeth (divinity) ac felly yn lle Ieuan Fardd, mi af yn Ieuan Ddewin. Ef allai y deuaf i ymweled â chwi dros ddiwrnod ym mhen mis. Ac y mae yna lawer o hen gyfeillion, ysgolheigion Ystrad Meurig, sydd arnaf flys eu gweled. A glywch chwi? Mi a anghofiais o braidd ofyn iwch pa beth yr ych yn arfaethu wneuthur o'r Fugeilgerdd yna? Yr oedd y Tew o Ystrad yn meddwl y rhoddech hi yn y wasg; ac os felly fydd, na anghofiwch gydnabod mai ef yw'r cyntaf a ysgrifenodd fugeilgerdd yn Gymraeg; ac onid ef, fo ddigia, ac ni chymyd byth â chwi no minnau. Mi feddyliais am hyn es dyddiau, ond mi a anghofiais ysgrifenu atoch. Y mae ef wedi newid y ddeu-fraich ddiweddaf o'r trydedd pennill yn y wedd yma. Yn lle—
O'r wyn aeth i Frwyno, d' oes un nad oes yno,
Pob un a grwydro a geir adre.
darllenwch—
Mamogion bron Brwyno, er iddynt hir grwydro,
Don' eto i'w llwyr odro i'r llawr adre.
Am Dafydd ap Gwilym a Lewis Glyn Cothi, da iawn fu'r helynt eu dwyn o'r Pwll Dwr. Y maent yn ddigon diogel iwch. Danfonwch am danynt pan fynnoch. Llyna iwch bapuryn yn dangos gyda phwy i ddanfon am danynt, os mynnwch eu cludo dros fôr. Yr wyf yn meddwl nad oes na cherbyd na men yn myned yno o Lundain. Gadewch im' glywed pan ddelont yna, o herwydd fo fydd yn esmwythter gennyf eu dyfod yn ol yn ddifai ddianaf. Yr oeddynt yn ormod baich i mi eu cludo ar fy nghefn, er fod yn ddrwg gan fy nghalon orfod arnaf adael y ddau hen gorff mwyn ar fy ol. Ond pan ddigwyddo llongddrylliad, chwi wyddoch mai hunan-geidwadaeth yw'r egwyddor pennaf. E orfu arnaf, fal pob moriwr arall, gardota ar hyd y ffordd yma, o herwydd a dderyw im' pan oedd drymaf y dymhestl, daflu yr aur a'r arian dros y bwrdd; ac yna, wedi ychydig ddyddiau, y bu tawelwch mawr. Wele, wele! Gobeithio Duw nad af fi, tra bwyf ar y ddaiaren, i'r cyfryw daith drachefn.
Yr wyf yr awron, clod i'r Goruchaf, yn mwynhau fy iechyd yn odiaeth, ac yr wyf mewn gwlad iachus, gyda gwr mwyn, rhadlon, boneddigaidd. Yr wyf yn ciniawa gydag ef bob dydd, ond yn lletya allan. Yr wyf yn talu chwe swllt yr wythnos am fy nghinio, a hanner coron am fy llety, ac yng nghylch chwe-cheiniog am fy ngolchiad. Y gyflog ydyw deugain punt yn y flwyddyn. Nid yw ond curadiaeth esmwyth a phlwyf bychan. Nid oes i'w wneuthur ddyddiau'r wythnos. Nid allaswn fyth ddygwydd wrth guradiaeth well.
Am y Petr Wiliams yna sydd yn argraffu y Bibl yng Nghaerfyrddin, nid yw, meddynt i mi yng Ngheredigion, ond ysgolhaig sal, a phur anghyfarwydd yn y Gymraeg. Un o gynghorwyr neu ddysgawdwyr y Methodistion ydyw. E ddywedwyd wrthym i nad oedd y gwaith ddim yn myned yn y blaen, o herwydd eu bod yn barnu nad oedd ef ddim gymhwys i'r gorchwyl. Dyna'r cwbl a wn i am dano.
Dyma'r papur ym mron darfod. Duw a'ch cadwo ac a'ch bendithio chwi a'ch tylwyth! Yr eiddoch yn ffyddlonaf,
P.S. Gwiliwch na sonioch wrth neb yng Nghymru am hanes y Pwll Dwr, ac onid ef ni bydd diwedd byth ar bregethu, yr hyn a ddylai fod fal physigwriaeth arall............
Nodiadau
[golygu]- ↑ Mr. Rhisiart Morys.