Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Llys Ifor Hael
Gwedd
← Cynhwysiad | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
O Ddyfroedd Moroedd Mawrion → |
IEUAN BRYDYDD HIR.
LLYS IFOR HAEL.
LYS Ifor Hael![1] gwael yw'r gwedd,—yn garnau
Mewn gwerni mae'n gorwedd;
Drain ac ysgall mall a'i medd,
Mieri, lle bu mawredd.
Yno nid oes awenydd,—na beirddion,
Na byrddau llawenydd,
Nac aur yn ei magwyrydd,
Na mael, na gwr hael a'i rhydd.
I Dafydd[2] gelfydd ei gân,—oer ofid
Roi Ifor mewn graian:
Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y ddylluan.
Er bri arglwyddi byr glod,—eu mawredd
A'u muriau sy'n darfod;
Lle rhyfedd i falchedd fod
Yw teiau yn y tywod.